天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


New Chairman

Published: 12/05/2016

Dydd Mawrth 10 Mai, mae Cyngor Sir y Fflint wedi ethol y Cynghorydd Peter Curtis fel Cadeirydd. Mae鈥檙 Cynghorydd Curtis yn cynrychioli Canol Treffynnon ac wedi bod yn aelod o Gyngor Sir y Fflint ers 1995. Ef oedd Cadeirydd y Cyngor yn 2005/6. Mae hefyd yn aelod o Gyngor Tref Treffynnon, gan wasanaethu fel Maer dair gwaith. Mae鈥檙 Cynghorydd Curtis yn byw yn Nhreffynnon ac yn briod i Jenny ac mae ganddo ddau o blant. Yr Is-Gadeirydd am y 12 mis nesaf fydd y Cynghorydd Brian Lloyd syn cynrychioli Gorllewin yr Wyddgrug. Mae鈥檙 Cynghorydd Lloyd wedi bod yn aelod o Gyngor Sir y Fflint ers mis Mai 2012. Mae hefyd wedi bod yn aelod o Gyngor Tref yr Wyddgrug ers 2009 a gwasanaethodd fel Maer yn 2015/16. Mae鈥檙 Cynghorydd Lloyd yn byw yn yr Wyddgrug.