天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cadeirydd yn hel pres

Published: 13/05/2016

Mae Cadeirydd ymadawol Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ray Hughes ai Gymar, Mrs Gwenda Hughes, wedi cyflwyno eu helusennau dewisol 芒 sieciau gwerth cyfanswm o 拢19,000 yn ddiweddar. Ers ei ethol fis Mai diwethaf, mae鈥檙 Cynghorydd Hughes wedi cefnogi Cwn Tywys y Deillion (ardal yr Wyddgrug), Ysgol Farchogaeth Arbennig Clwyd a Hosbis Tyr Eos (cangen Coed-llai). Cyflwynodd y Cyng Hughes gynrychiolwyr or tair elusen gyda sieciau o 拢5,000 yr un yn Neuadd y Sir yn Yr Wyddgrug, gan ddod 芒 blwyddyn lwyddiannus iawn fel cadeirydd i ben. Bydd gweddill yr arian yn cael ei rannu rhwng sefydliadau eraill. Dywedodd y Cyng. Hughes: Mae Gwenda a minnau wedi cael blwyddyn wirioneddol wych ac maen anrhydedd i gynrychioli鈥檙 Sir rydym yn garu. Yr wyf yn wir yn falch ein bod yn codi cymaint o arian ar gyfer ein elusennau dewisol. Hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth wych yn ystod fy mlwyddyn yn y swydd ac rwyn dymuno blwyddyn lwyddiannus ir Cadeirydd newydd, y Cyng. Peter Curtis.