Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Dadorchuddio Gwarchodwr Mawr Sir y Fflint ym Mhwynt y Fflint
  		Published: 11/05/2016
Yn ddiweddar dadorchuddiodd Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint gerflun pren ar 
Lwybr yr Arfordir.
Pwrpas y prosiect celf gwerth 拢5,000 hwn oedd creu milwr pren i warchod a 
gwylio dros Ynys Hilbre o Bwynt y Fflint.
Sicrhaodd y Gwasanaeth Cefn Gwlad gyllid gwerth 拢43,000 gan y Gronfa Cymunedau 
Arfordirol ar gyfer gwelliannau ym Mhwynt y Fflint.  Mae prosiectau ar y gweill 
gan gynnwys gosod wyneb newydd ar lwybrau troed, creu llwybr troed arall ar 
gyfer llanw uchel, gwyro erydiad, creu llwybr troed arall a thrwsio ffensys a 
phrosiect celf.
Comisiynwyd artist lleol, Mike Owens i wneud y gwaith.  Mae鈥檙 cerflun wedi鈥檌 
wneud o goed llarwydd, mae鈥檔 dair metr o uchder, defnyddiwyd rhaff ddur i wneud 
yr arfwisg a defnyddiwyd hoelion pen crwn wedi鈥檜 galfaneiddio i greu menyg dur.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, Cyngor 
Sir y Fflint:
鈥淢ae鈥檙 鈥楤ig 天涯社区 Guardian鈥 neu鈥檙 BFG yn ychwanegiad gwych i鈥檙 safle.  Mae 
eisoes yn atyniad poblogaidd iawn ymysg trogolion lleol a bydd yn denu llawer o 
bobl pan ddawr Eisteddfod ir Fflint dros y misoedd nesaf.鈥
Gwahoddwyd trigolion lleol draw, ynghyd ag aelodau o Grwpiau Canoloesol Samhain 
a Cymdial a oedd yn eu gwisgoedd ar gyfer y lansiad swyddogol.
Ariennir y Gronfa Cymunedau Arfordirol gan y Llywodraeth gydag incwm o asedau 
morol Ystad y Goron.  Fe鈥檌 darperir gan y Gronfa Loteri Fawr ar ran Llywodraeth 
y DU a Gweinyddiaethau Datganoledig Gogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru.
 BFG.JPG  
O鈥檙 chwith: George a Carol Andrews (trigolion lleol), Christopher Roberts 
(Cymdeithas Ganoloesol Cymdial), Roy a June Davies (trigolion lleol), Jim 
Craven (gwirfoddolwr), Y BFG, Mike Owens (artist), Stephen Lewis (Ceidwad Cefn 
Gwlad), Charles Evans Gunther (Cymdeithas Ganoloesol Samhain)