天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynlluniau tain cael eu cyflwyno iw craffu

Published: 05/05/2016

Yr wythnos nesaf, bydd Pwyllgor Arolygu a Chraffu Cymuned a Menter Cyngor Sir y Fflint yn ystyried dau adroddiad sy鈥檔 tynnu sylw at lwyddiannau cynlluniau tai鈥檙 cyngor. Maer adroddiad cyntaf yn ceisio cymorth craffu i ddatblygu tai cyngor yn The Walks yn y Fflint am gyfanswm o 拢3.95m fel rhan o Raglen Strategol Tai ac Adfywio (SHARP) y Cyngor. Dyma鈥檙 ail gynllun tai i gael ei gynnig yn dilyn Custom House yng Nghei Connah. Yn y prosiect cyffrous hwn, sy鈥檔 rhan o ddatblygiad 92 cartref, bydd 30 o gartrefi newydd y cyngor yn cael eu hadeiladu ar hen safle鈥檙 fflatiau deulawr a bydd hyn yn rhoi llawer mwy o ddewis tai i drigolion y Fflint. Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton: Maer Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl drigolion yn cael llety a safonau byw gweddus a phriodol. Dyna pam yr ydym yn buddsoddi mewn adeiladu stoc newydd o dai cyngor am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth. Ar 么l cael cymeradwyaeth y Cabinet ym mis Mehefin 2012, mae鈥檙 Cyngor wedi cyflwyno Uwchgynllun y Fflint syn nodi map llwybr ar gyfer trawsnewid y Fflint, gan adeiladu ar ei asedau niferus. Cafodd ei baratoi gan Gyngor Sir y Fflint ar y cyd 芒 thrigolion a busnesau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill. Gan fod y Fflint wedi鈥檌 adeiladu鈥檔 wreiddiol fel tref a gynlluniwyd yn seiliedig ar groesffurf o strydoedd, mae dyluniad y cynigion pensaern茂ol yn ceisio ail-greur patrwm strydoedd hwn. I symud ymlaen, bydd cynlluniau tai Cyngor SHARP, sy鈥檔 cynnwys Maes y Meilion a Heol y Goron, Coed-llai a Redhall, Cei Connah, yn cael eu cyflwyno ir Cabinet ym mis Mehefin 2016 iw cymeradwyo i baratoi cais cynllunio yn dilyn y digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus a gynlluniwyd. Maer ail adroddiad yn gofyn ir pwyllgor adolygu ac argymell polisi cydymffurfio ar gyfer Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) yn Sir y Fflint. Meddai Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Dai, y Cynghorydd Helen Brown: Rydym yn falch o allu dweud y bydd Sir y Fflint yn cyrraedd Safonau Ansawdd Tai Cymru ar neu cyn y dyddiad cau, sef 2020. Mae hwn yn gyflawniad aruthrol o ystyried yn 2012 na fyddai wedi bod yn bosibl cyrraedd y safon tan 2036. Mae hyn wedi digwydd o ganlyniad i waith caled ac ymroddiad swyddogion ac aelodau Sir y Fflint i gydweithio a鈥檜 hawydd i ddarparu tai o ansawdd uchel ar gyfer tenantiaid Sir y Fflint. Dawr Polisi Cydymffurfio yn sg卯l cais gan Lywodraeth Cymru i bob awdurdod lleol gynhyrchu polisi fel hyn ar gyfer eu heiddo SATC. Maer Polisi鈥檔 dangos sut mae Sir y Fflint yn dehongli a chymhwyso SATC, sut mae鈥檔 cydymffurfio 芒 chydrannau unigol, a sut mae鈥檔 bwriadu asesu a gwirio鈥檙 ffordd y mae鈥檔 cyflawni鈥檙 safon. Bydd y polisi hwn yn ymateb i gais Llywodraeth Cymru i bob landlord gynhyrchu Polisi Cydymffurfio SATC a Thystysgrif Cydymffurfio ar gyfer pob eiddo pan fyddant yn eu hail-osod. Mae Tystysgrif Cydymffurfio wedi鈥檌 ddatblygu ac fe鈥檌 cyflwynir pan gaiff eiddo ei ail-osod. Maer Dystysgrif yn cynnwys rhestr o 41 o gydrannau sydd angen i eiddo gydymffurfio 芒 nhw i gyrraedd SATC.