Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Craffu er mwyn ystyried ateb arall ar gyfer gorfodaeth amgylcheddol
  		Published: 04/05/2016
Yr wythnos nesaf, bydd Pwyllgor Arolygu a Chraffu鈥檙 Amgylchedd Cyngor Sir y 
Fflint yn ystyried adroddiad ar gynllun peilot 12 mis i ymgysylltu 芒 phartner 
allanol i gynorthwyo 芒 dyletswyddau gorfodaeth amgylcheddol y Cyngor.
Mae troseddau amgylcheddol fel baw cwn a thaflu sbwriel yn parhau i fod yn 
broblem fawr ac maer ddau fater hwn yn parhau i ddifetha parciau, mannau 
agored a strydoedd y Sir. Bydd y trefniant newydd yn cynyddu nifer y swyddogion 
gorfodi sy鈥檔 gweithio ar y strydoedd ac mewn mannau agored ar unrhyw adeg or 
wythnos, er mwyn cynorthwyo swyddogion gorfodi presennol y Cyngor i ddarparu 
ymagwedd dim goddefgarwch tuag at droseddau amgylcheddol.
Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet dros yr 
Amgylchedd, y Cynghorydd Bernie Attridge:
Bu i ni gyflwyno dull gorfodi dim goddefgarwch fel rhan on proses Cynllunio 
Busnes yn 2015-16.  Ers hynny rydym wedi cynnal ymarfer ymgysylltu 芒r cyhoedd 
a chodi ymwybyddiaeth helaeth, ymweld 芒 busnesau, yn enwedig yng nghanol trefi, 
a Chynghorau Tref a Chymuned i roi gwybod iddynt am y trefniadau gorfodi newydd 
mwy trylwyr. Er gwaethaf ein holl ymdrechion, mae taflu sbwriel a baw cwn yn 
parhau i fod yn broblem fawr ac rydym yn argymell cyflwyno trefniant gyda 
phartner preifat sydd ag enw da am lwyddo i orfodi ym maes troseddau 
amgylcheddol. Bydd effaith y cynigion yn cael eu hadolygu dros y flwyddyn nesaf 
fel bo modd i ni asesu鈥檙 effaith ar lendid ein Sir cyn gwneud penderfyniad 
terfynol ynglyn 芒鈥檙 gwasanaeth a ddarperir ar ddiwedd y cyfnod treialu 
Ar 么l treialu鈥檙 trefniant am 12 mis, cynhelir gwerthusiad llawn o鈥檌 lwyddiant 
cyn trefnu contract ac ymrwymiad mwy hirdymor.
Meddai Aelod Cabinet dros Wastraff a Diogelu鈥檙 Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y 
Cynghorydd Kevin Jones:
Mae llawer o awdurdodau lleol wedi ffurfio partneriaeth 芒 chwmn茂au preifat i 
ychwanegu at eu gweithgareddau gorfodi. Rydym wedi cwrdd 芒 sefydliadau 
cenedlaethol sydd 芒 phrofiad perthnasol ac wedi derbyn cynnig a fydd yn diwallu 
ein hanghenion am 12 mis. Ni fydd cost am y gwasanaeth ir Cyngor a bydd pob 
hysbysiad cosb penodedig a roddir yn darparu elw o 15%. Maer digwyddiad 
glanhau traeth y bu i ni gymryd rhan ynddo鈥檔 ddiweddar, a drefnir gan Cadwch 
Gymrun Daclus, yn dangos bod angen cymryd mwy o gamau gweithredu yn erbyn baw 
cwn a sbwriel.