Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Nodwch ddyddiad yr Wyl Oleuni
  		Published: 04/05/2016
Yn dilyn llwyddiant yr Wyl Oleuni yn 2013, mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal y 
digwyddiad ysbrydoledig unwaith eto ym mis Hydref eleni.
Cynhelir y digwyddiad yn ac o amgylch ardaloedd arfordirol Maes Glas a bydd yr 
orymdaith yn gorffen yn lleoliad hardd Abaty Dinas Basing ym Mharc Treftadaeth 
Dyffryn Maes Glas.
Bydd yr wyl deuluol hon yn digwydd yn ystod y prynhawn a gyda鈥檙 nos ddydd 
Sadwrn 15 Hydref a鈥檌 nod yw dod 芒 chymunedau arfordirol Talacre, Maes Glas a 
Bagillt a鈥檜 cysylltiadau hanesyddol ag Afon Dyfrdwy at ei gilydd. Themar wyl 
fydd Or Ddyfrdwy ir M么r a bydd yn canolbwyntio ar straeon, mythau a 
chwedlau cymunedau arfordirol Sir y Fflint yn ogystal 芒u treftadaeth a鈥檜 
diwylliant cyfoethog.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Addysg, y Cynghorydd Chris 
Bithell:
Maen mynd i fod yn ddigwyddiad gwych - hyd yn oed yn fwy nar un a gynhaliwyd 
yn 2013, felly gofalwch eich bod yn gwneud nodyn yn eich calendrau i ddod draw. 
Yn ystod y misoedd yn arwain at yr wyl, bydd gweithdai amrywiol yn cael eu 
cynnal gydag ysgolion a chymunedau arfordirol lleol i ddylunio llusernau, creu 
cerddoriaeth a choreograffu darnau dawns gydag artistiaid proffesiynol or 
ardal leol. Bydd hyn yn arwain at berfformiadau yn ystod yr wyl deuluol wych 
hon ar 15 Hydref a fydd hefyd yn cynnwys prynhawn o weithgareddau megis 
gweithdai offerynnau taro a gweithdai llusernau. 
Maer wyl yn cael ei threfnu gan adran Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau 
Cyngor Sir y Fflint gyda chymorth ariannol gan y Gronfa Cymunedau Arfordirol a 
Cadw. Ariennir y Gronfa Cymunedau Arfordirol gan y Llywodraeth gydag incwm o 
asedau morol Yst芒d y Goron. Maen cael ei ddarparu gan y Gronfa Loteri Fawr ar 
ran Llywodraeth y DU ar Gweinyddiaethau Datganoledig yng Ngogledd Iwerddon, yr 
Alban a Chymru.
Edrychwch allan am fwy o wybodaeth am y gweithdai a gynhelir yn y misoedd 
nesaf. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch 芒 Gwenno Eleri Jones ar 
01352 702471.