Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Amser i faethu; amser i ofalu
Published: 09/05/2016
Yn ystod Pythefnos Gofal Maeth eleni (16-29 Mai), mae Gwasanaeth Maethu Sir y
Fflint eisiau codi ymwybyddiaeth or angen am bobl a all ofalu am blant dros 10
oed.
Yn y 12 mis diwethaf, mae 69 yn fwy o blant wedi bod angen gofal maeth yn Sir y
Fflint. Mae hyn ar ben y dros 100 o blant sydd eisoes yn byw gyda gofalwyr Sir
y Fflint ac mae eu gwelyau yn llawn.
Bydd Gwasanaeth Maethu Sir y Fflint yn cynnal sesiwn wybodaeth ddydd Iau, 26
Mai am 7pm yng Ngwesty Springfield ger Treffynnon gan gynnwys cyflwyniad am
ddod yn ofalwr maeth. Cysylltwch 芒 th卯m Maethu Sir y Fflint ar 01352 702190 neu
anfonwch e-bost at fostering@flintshire.gov.uk os hoffech fynychu.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢aer rhan fwyaf o blant sydd wedi bod angen gofal maeth yn ystod y flwyddyn
ddiwethaf wedi bod dros 10 mlwydd oed. Mae arnom angen pobl y mae eu plant eu
hunain wedi tyfu i fyny a gadael cartref, ac syn gallu defnyddio eu profiad i
roir un cyfleoedd mewn bywyd i blentyn arall.
鈥淢ae pobl ifanc angen rhywun i wrando, treulio amser gyda nhw, eu helpu i ddal
i fyny ar eu haddysg, eu hysbrydoli i weithion galed a鈥檜 paratoi ar gyfer
bywyd ar eu pen eu hunain.
鈥淢ae gofalwyr maeth yn s么n am y llwyddiannau bach syn golygu llawer wrth ofalu
am berson ifanc; mynd ar fws ar eu pennau eu hunain, eu dysgu i yrru, dangos
iddynt sut i wisgo colur yn dlws, y llawenydd o鈥檜 gwylio yn gwneud yn dda mewn
chwaraeon ac eistedd o amgylch y bwrdd i gael cinio.鈥
Mae angen gofalwyr maeth i helpu plant o Ogledd Cymru. Mae hyfforddiant a
digwyddiadau lleol yn cael eu cynnig, yn ogystal 芒 chefnogaeth t卯m lleol
profiadol, gyda gwybodaeth leol. Mae dros 100 o deuluoedd yn ymddiried yng
Ngwasanaeth Maethu Sir y Fflint iw cefnogi, a鈥檜 cydweddu 芒r plant cywir ac
maent yn parhau i faethu 芒u cyngor lleol blwyddyn ar 么l blwyddyn.
Bob 20 munud ar draws y DU bydd plentyn angen teulu maeth. Nod ymgyrch
Pythefnos Gofal Maeth eleni Amser i Faethu, Amser i Ofalu, a gynhelir gan y
Rhwydwaith Maethu, yw annog pobl a all fod wedi bod yn meddwl am faethu ers
nifer o flynyddoedd i ddod ymlaen. Rwan ywr amser i faethu ... rwan ywr amser
i ofalu.
Dyma stori Megan. Mae hin 16 oed ac yn byw mewn gofal maeth yn Sir y Fflint.
Roedd Megan yn awyddus i rannu ei stori i ddangos y gwahaniaeth y mae maethu
wedi鈥檌 wneud iw bywyd a sut y gallai helpu eraill:
鈥淩oeddwn i鈥檔 mynd i lawr y llwybr anghywir, yn rhedeg i ffwrdd drwyr amser, yn
mynd i drwbl a bob amser yn flin gyda phobl. Yna cefais fy rhoi mewn gofal
maeth ac mae wedi gwneud lles i mi fod mewn gofal maeth. Roedd ychydig yn
lletchwith ar y dechrau gan nad oeddwn yn eu hadnabod, ond roeddent yn neis
iawn. Roeddent eisiau i mi fod fel rhan or teulu. Mae plant angen teulu,
rhywun i鈥檞 caru, gofalu amdanynt a gwrando arnynt. Mae rhywun fy oedran i angen
rhywun i fod yno iddynt, gofalu amdanynt a dweud wrthynt beth syn iawn a beth
sydd ddim.
鈥淩ydym yn mynd am bryd o fwyd neu ddiwrnod allan. Rydym yn mynd ir sinema, neu
yn yr haf rydym yn mynd ir traeth. Rydym yn mynd i siopa gydan gilydd, rydym
yn gwneud gwahanol bethau fel teulu. Rai penwythnosau rydym yn mwynhau
nosweithiau gemau a bwyd t锚c aw锚.
鈥淢aen nhw wedi fy nysgu sut i garu pobl, oherwydd roeddwn yn meddwl na allwn i
fyth garu teulu, na chael fy ngharu. Maen nhw wedi fy nysgu sut i olchi fy
nillad, sut i smwddio a fy mod yn gallu gwneud pethau.
鈥淒oedd neb yn meddwl y byddwn yn llwyddo, ond nid wyf i or farn honno bellach,
rwyn gweld fy hun yn cael fy nheulu bach fy hun, setlo i lawr, cael swydd neis
a fy fflat bach fy hun, a bod yn well person nag y byddai unrhyw un wedi
disgwyl i mi fod.
鈥淒yma fy nheulu i rwan. Mae gen i deulu yma os byddaf byth eu hangen felly
rwyn gwybod y bydd gennyf ddyfodol da.鈥
Dywedodd Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint, Neil
Ayling:
鈥淢aen cymryd 12 mis i ddod yn ofalwr maeth. Rydym yn treulio amser yn asesu
eich sgiliau ach cryfderau, yn dod i鈥檆h adnabod chi ac yn eich paratoi ar
gyfer eich r么l fel gofalwr maeth ar heriau posibl sydd och blaen.鈥
Gallwch gysylltu 芒 ni mewn cymaint o ffyrdd, anfon e-bost at
fostering@flintshire.gov.uk, anfon y gair 鈥渕aethu鈥 at 61211, Facebook
(chwiliwch Maethu Sir y Fflint), ewch in gwefan yn
www.flintshirefostering.org.uk neu ffoniwch 01352 702190. Bydd gennym sgwrs fyw
ar ein gwefan drwy gydol pythefnos gofal maeth os ydych am ofyn cwestiwn a
byddwn yn cynnal sesiynau gwybodaeth bron bob mis. Maer manylion i gyd ar ein
gwefan.