Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Mae plant a phobl ifanc yng Ngogledd Cymru eich angen chi!
  		Published: 05/05/2016
Dynar alwad gan wefan newydd a lansiwyd gan dimau maethu cynghorau lleol y mis 
hwn.
Mae timau maethu ledled Gogledd Cymru yn gweithio i annog mwy o bobl leol i 
faethu plant yng Ngogledd Cymru, yn enwedig plant dros 10 oed ac maen nhw 
eisiau i chi ymweld 芒r wefan newydd.
Gyda dros 400 o ofalwyr maeth yng Ngogledd Cymru, mae Sir y Fflint yn gweithio 
gydar pum cyngor arall yn yr ardal i ddarparu gofal i dros 1,000 o blant a 
phobl ifanc syn derbyn gofal. 
Bob 20 munud ar draws y DU, mae plentyn yn mynd i ofal ac angen teulu maeth, ac 
nid oes gennym ddigon o ofalwyr maeth yng Ngogledd Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol 
Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae angen gofalwyr maeth da i wneud gwahaniaeth i ddyfodol plant au cyfleoedd 
mewn bywyd. Rydym angen pobl leol a all ddarparu amgylchedd teuluol diogel, 
gofalgar a llawn maeth lle gall plant ddatblygu a ffynnu, a chyrraedd eu llawn 
botensial.
鈥淣id yw gofalwyr maeth ar eu pen eu hunain. Mae timau profiadol yn gweithio 
gyda theuluoedd maeth i ddarparur cymorth sydd ei angen i helpu gofalwyr 
drwyr cyfnodau anodd ac helpu plant i oresgyn y trawma maen nhw wedi鈥檌 gael yn 
gynharach yn eu bywyd.
Efallai bod y meini prawf i fod yn ofalwr maeth yn fwy agored nag y tybiwch. 
Mae llawer o bobl yn ystyried na fyddent yn cael eu derbyn i faethu, ond byddem 
yn eu hannog i siarad 芒 ni cyn rhoir gorau i鈥檙 syniad. Nid oes cyfyngiad ar 
oed ac nid oes angen unrhyw gymwysterau. Gallwch fod yn sengl. Gallwch weithio 
yn ogystal 芒 maethu. Byddwch angen ystafell wely sb芒r. Mae gwahanol fathau o 
faethu syn addas i chi ach teulu. Y peth pwysicaf yw eich bod yn gallu 
treulio amser gyda phlant, gwrando a chynnig sefydlogrwydd, hyd yn oed pan fydd 
pethaun mynd yn anodd.
I unrhyw un sydd 芒 diddordeb mewn dod i wybod mwy am faethu, ewch i 
www.maethugogleddcymru.gov.uk/cy/home.aspx