Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cau ffordd yn Queensferry
  		Published: 20/04/2016
Hoffai Cyngor Sir y Fflint hysbysu preswylwyr a busnesau lleol oi fwriad i 
gaur ffordd gerbydau gylchredol ar y gylchfan uchod.
Bydd caur ffordd yn galluogir contractwr i gwblhaur gwaith terfynol i roi 
wyneb newydd ar y ffordd yn ddiogel ac mewn cyn lleied o amser ag syn bosibl a 
bydd y gylchfan ar gau dros nos 4 Mai ac eto nos Wener 6 Mai tan fore Llun 9 
Mai.
Bydd arwyddion yn dangos y ffyrdd eraill a fydd ar gael i gerbydau tra bor 
gwaith yn mynd rhagddo ac maer manylion ar gael ar wefan Cyngor Sir y Fflint 
ar 28 Ebrill.
Bydd y Cyngor yn cynnal digwyddiad gwybodaeth ar 28 Ebrill fel bo modd i 
breswylwyr a busnesau yn yr ardal ganfod mwy o am y gwaith ar ffyrdd eraill a 
fydd ar gael i gerbydau.  Bydd aelodau or t卯m prosiect ar gael yn y sesiwn i 
drafod y cynigion ac ateb unrhyw gwestiynau unigol am y cynigion.
Cynhelir y digwyddiad hwn yn Sefydliad Coffar Rhyfel Queensferry ar 28 Ebrill 
2016 o 1pm tan 6pm.  Gwahoddir preswylwyr a busnesau lleol i fynychu.
Maer Cyngor yn ymddiheuro o flaen llaw am unrhyw oedi ac aflonyddwch a achosir 
gan y gwaith, fodd bynnag bydd mynediad ar gael i fusnesau ac eiddo yn yr ardal 
bob amser tra bor gwaith yn mynd rhagddo.