Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Taliadau Uniongyrchol - cydnabod arfer da yn Sir y Fflint
  		Published: 15/04/2016
Yn dilyn adolygiad a gynhaliodd Swyddfa Archwilio Cymru (WAO) yn ddiweddar, 
cyhoeddwyd bod Cyngor Sir y Fflint yn enghraifft o arfer da ym maes Taliadau 
Uniongyrchol i oedolion ac y dylid eu hefelychu ledled y DU.
Mae dros 388 o bobl yn Sir y Fflint yn awr yn defnyddio taliadau uniongyrchol - 
sy鈥檔 gynnydd o 89% ers 2012, sef dros 11% o holl gleientiaid y gwasanaethau 
gofal cymdeithasol i oedolion. Yn Sir y Fflint hefyd y gwelwyd y cynnydd 
canrannol mwyaf mewn taliadau uniongyrchol ar gyfartaledd rhwng 2006/07 a 
2014/15 - sef cynnydd o 464% - a nododd yr Archwilydd Cyffredinol fod hynny i鈥檞 
briodoli i safon y canllawiau a roddir.
Dim ond dau gyngor, a Sir y Fflint yw un o鈥檙 rhain, sydd 芒 ffurflenni cais 
ar-lein, a soniwyd yn                        benodol am Ganllawiau Hwylus  Sir 
y Fflint, sydd wedi鈥檜 hysgrifennu mewn iaith glir a hygyrch iawn.
Mae Sir y Fflint hefyd yn annog defnyddwyr i gronni adnoddau a hyd yn oed i 
greu gwasanaethau gofal newydd a mwy priodol drwy gydweithredu a drwy fentrau 
cymdeithasol.
Dywedodd yr aelod dros Wasanaethau Cymdeithasol yng Nghabinet Cyngor Sir y 
Fflint, y Cynghorydd Christine Jones: Roeddem yn gwybod bod rhai problemau 
cychwynnol ond mae鈥檙 rheini wediu datrys bellach ac maen braf cael y 
gydnabyddiaeth hon gan y WAO.
Rydym wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus wrth ddatblygu鈥檙 maes hwn  鈥 ac mae 
ein perfformiad wedi cael ei gydnabod yn genedlaethol. Hoffwn longyfarch yr 
holl d卯m am weithio mor galed i wneud gwahaniaeth ac i sicrhau bod Sir y Fflint 
yn cael ei  ystyried yn enghraifft wych.鈥
Gellir gwneud taliadau uniongyrchol i rai trigolion syn gymwys i gael cymorth 
i ddiwallu eu hanghenion gofal.  Gallant ddewis i鈥檞 hawdurdod lleol roi鈥檙 
arian, yn lle gwasanaeth iddynt.  Yna,  gallant ddefnyddior arian hwn i drefnu 
cymorth syn addas iddyn nhw a鈥檜 ffordd nhw o fyw. Dyma sy鈥檔 cael ei alw鈥檔 
Daliadau Uniongyrchol.