Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun Gwella 2016-17
Published: 14/04/2016
Bydd drafft o Gynllun Gwella blynyddol Cyngor Sir y Fflint yn cael ei ystyried
yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Mawrth 19 Ebrill.
Bydd y Cynllun Gwella terfynol ar gael ar y wefan cyn diwedd mis Mehefin ar 么l
iddo gael ei gymeradwyo gan y Cyngor Sir.
Maen cryfhau llwyddiannau blynyddoedd blaenorol ac yn parhau cynnydd cryf
cynllun hirdymor y Cyngor. Mae鈥檙 cynllun wedi鈥檌 rannun wyth prif flaenoriaeth
sef Yr Amgylchedd, Tai, Byw yn Dda, Tlodi, Economi a Menter, Sgiliau a Dysgu,
Cymunedau Diogel a Chyngor Modern ac Effeithlon ac mae鈥檔 helpur sefydliad i
gyrraedd targedau i ddatblygur meysydd hyn. Hefyd mae adran newydd o fewn pob
is-flaenoriaeth syn ymdrin 芒 materion cenedlaethol a allai effeithio ar allu鈥檙
Cyngor i gyflawni鈥檙 blaenoriaethau.
Uchafbwyntiau o gynllun 2015-16:
路 Mae鈥檙 gwaith o adeiladu prosiectau Moderneiddio Ysgolion yng Nghanolfan
Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy yng Nghei Connah a Champws Dysgu Threffynnon
yn datblygu鈥檔 dda ac mae disgwyl iddynt agor eu drysau ym mis Medi eleni.
路 Mae 39 eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnodau hir yn cael eu defnyddio eto o
ganlyniad i gyllid gan Gynlluniau Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid (24) a Throi
Tain Gartrefi (15) gan Lywodraeth Cymru.
路 Mae gwaith wedi dechrau ar y Cartref Gofal Ychwanegol yn y Fflint.
路 Cefnogaeth barhaus i bobl ifanc sydd, neu sydd mewn perygl o fod yn NEET
drwyr Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid.
路 Mae鈥檙 Fflint a Bwcle yn cael ei cydnabod gan y Gymdeithas Alzheimer fel
cymunedau syn gyfeillgar i ddementia. Dyma鈥檙 trefi cyntaf yng ngogledd Cymru
i dderbyn achrediad tebyg.
路 Cymeradwyo cynlluniau tai fforddiadwy yn The Walks, Y Fflint a safle hen
Ysgol Custom House Lane, Cei Connah 鈥� mae gwaith bellach wedi dechrau ar y
cynlluniau hyn.
路 Mae cwmni tai y Cyngor, NEW Homes Ltd, yn mynd o nerth i nerth ac yn
ddiweddar mae wedi croesawu ei 50fed tenant.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
Maer Cynllun Gwella yn nodi prif flaenoriaethau鈥檙 Cyngor lle鈥檙 ydym yn anelu
at wella bywydau trigolion. Mae rhai on blaenoriaethau yn 2016-17 yn cynnwys
cynyddu nifer y tai fforddiadwy newydd a gostwng nifer yr eiddo gwag yn y Sir;
parhau 芒鈥檔 gwaith i wneud defnydd mwy effeithlon o gyllid addysg sydd ar gael;
cynyddu nifer y prentisiaethau sydd ar gael; meithrin ymwybyddiaeth bellach o
ddementia; rhoi cyngor a chefnogaeth i helpu pobl i warchod eu hincwm yn ystod
cyfnod o newidiadau cenedlaethol ir system les a helpu i ddatblygu mathau
newydd o fusnesau lleol yn Sir y Fflint.
Dywedodd Colin Everett, Prif Weithredwr:
Maer cynllun wedi cael ei adnewyddu ai ddiweddaru i adlewyrchu prif
flaenoriaethau鈥檙 Cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf. Maer Cyngor yn gwneud
cynnydd mewn meysydd a amlygwyd fel blaenoriaethau. Mae rhai prosiectau wedi
gorffen, ac mae rhai yn dal ar y gweill a bydd y rheiny鈥檔 symud i mewn i鈥檙
flwyddyn nesaf, ond y peth pwysig yw fod Sir y Fflint yn parhau i gyrraedd a
rhagori ar ei dargedau ac yn pennu blaenoriaethau newydd i ddatblygu
perfformiad y Cyngor bob blwyddyn.