Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Un wythnos i fynd! Cofrestrwch nawr er mwyn cael dweud eich dweud ddydd Iau 5 Mai 
  		Published: 11/04/2016
Gyda dim ond wythnos i fynd tan y dyddiad cau, maer Comisiwn Etholiadol a 
Chyngor Sir y Fflint yn annog trigolion i sicrhau eu bod wedi cofrestru i 
bleidleisio. 
Ddydd Iau 5 Mai, bydd pleidleiswyr yng Nghymru yn cymryd rhan yn etholiadau 
Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. 
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru, os ydych am allu pleidleisio a chael dweud 
eich dweud yn yr etholiadau hyn, yw dydd Llun 18 Ebrill. 
Dywedodd  y Swyddog Canlyniadau: Colin Everett: 
Gyda dim ond wythnos i fynd, nid oes gennych lawer o amser i sicrhau y gallwch 
gymryd rhan yn yr etholiadau hyn yng Nghymru. Mae ein neges yn un syml: Os na 
fyddwch wedi cofrestru erbyn 18 Ebrill, ni fyddwch yn gallu pleidleisio.  
Byddwn yn annog pawb yn Sir y Fflint weithredu nawr os nad ydych wedi cofrestru 
i bleidleisio ac i wneud cais ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.鈥
Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru:
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw dydd Llun 18 Ebrill 2016 felly nid oes 
gennych lawer o amser i sicrhau eich bod wedi cofrestru ac y gallwch gymryd 
rhan yn yr etholiadau pwysig hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Chomisiynwyr 
yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru ar 5 Mai. Yn 么l ein gwaith ymchwil, y rheswm 
pennaf pam nad yw pobl wedi cofrestru yw eu bod wedi symud ty, gyda dau o bob 
pump o bobl yng Nghymru yn nodi mai dymar esboniad. 
Dylai pob cartref fod wedi cael ein llyfryn gwybodaeth i bleidleiswyr syn 
cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gofrestru ac i bleidleision 
hyderus. Gallwch weld cop茂au on llyfryn yn www.fymhleidlaisi.co.uk neu gallwch 
archebu copi drwy ffonio 0800 3 280 280.鈥