Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir sydd yn gyfeillgar tuag at Dementia
Published: 11/04/2016
O fewn yr un wythnos, mae dwy dref yn Sir y Fflint wedi cael eu cydnabod yn
ffurfiol gan Gymdeithas Alzheimer鈥檚 fel cymunedau syn gyfeillgar tuag at
dementia!
Mae hyn yn golygu mai trefi Y Fflint a Bwcle yw鈥檙 cyntaf yng Ngogledd Cymru i
dderbyn achrediad or fath, gan ymuno 芒 nifer o ddinasoedd, trefi a phentrefi
sydd bellach yn edrych ar beth sydd angen iddynt ei wneud er mwyn cefnogi pobl
sydd 芒 dementia yn well au galluogi i fyw yn dda yn y gymuned.
Dywedodd Cynghorydd Sir y Fflint, Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau
Cymdeithasol:
鈥淢ae鈥檙 Fflint a Bwcle wedi gweithion galed i ennill cydnabyddiaeth gan
Gymdeithas Alzheimer鈥檚 ac maent wedi ymrwymo i weithio gyda busnesau lleol,
ysgolion a grwpiau cymunedol i sicrhau bod pob tref yn gymuned sy鈥檔 gyfeillgar
tuag at ddementia ac yn lle y gall pobl 芒 dementia gael eu deall, eu parchu, eu
cefnogi ac yn hyderus y gallant gyfrannu at fywyd y dref. Mae ennill y ddau
achrediad cyntaf yng Ngogledd Cymru yn yr un wythnos yn wych, ac mae鈥檔 brawf o
waith caled, pobl ofalgar ein sir.鈥
Fe ddaw鈥檙 gydnabyddiaeth yn Y Fflint, yn dilyn gwaith sydd wedi ei wneud gan
grwp dan gadeiryddiaeth y Parchedig Brian Harvey, Rheithor Fflint, a
chynghorydd tref, a ddywedodd:
鈥淒ros y deunaw mis diwethaf, maer grwp wedi cynnal sesiynau gwybodaeth i godi
ymwybyddiaeth o ddementia, yn ogystal 芒 sefydlu cyfarfodydd rheolaidd yn eglwys
y plwyf ar gyfer pobl 芒 dementia au gofalwyr. Mewn partneriaeth gyda siopau yn
Stryd yr Eglwys, fe drefnwyd nosweithiau siopa hwyrnos yn y cyfnod cyn y
Nadolig, a llwyfannwyd drama or enw The D-Word a oedd yn archwilio materion yn
ymwneud 芒 dementia.
Ym Mwcle, mae grwp dan gadeiryddiaeth dyn busnes lleol wedi cynnal mentrau
tebyg i gyflawni eu hachrediad. Dywedodd Ged:
鈥淩wyn falch iawn o dderbyn y newyddion bod Bwcle wedi ennill y statws i
weithio tuag at fod yn dref sydd yn Gymuned Gyfeillgar tuag at Dementia. Dyma
bartneriaeth wirioneddol rhwng pobl syn byw gyda dementia au teuluoedd au
gofalwyr, busnesau lleol, gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol ar Eglwys gyda
chefnogaeth lawn gan ein tref ar Sir. Mae hyn yn dangos beth y gellir ei
gyflawni pan ddaw pobl ynghyd 芒 chyd ymrwymiad i sicrhau fod pobl 芒 dementia yn
ein tref yn gallu byw鈥檔 dda.鈥
Maer ddau grwp wedi cael cefnogaeth dda gan D卯m Cynllunio a Datblygu Adran
Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint.
Os oes hoffai unrhyw un fod yn gyfaill dementia, neu drafod achredu eu grwp neu
fusnes, cysylltwch 芒 Luke Pickering-Jones ar 01352 702655 neu
luke.pickering-jones@flintshire.gov.uk.
PENNAWD Y LLUN:
Y bobl a wnaeth iddo ddigwydd!
Rhes flaen or chwith: Rose Marie Dennan 鈥 Grwp Cymysg Dydd Llun Y Fflint, Jo
Lane - Cymdeithas Alzheimer鈥檚, Donna Redgrave - Materion Cof RMD Bwcle, Dawn
Jones - Gweithiwr Cefnogi Dementia Bwcle, Angela Wedgewood 鈥 Age Connect y
Fflint, Cynghorydd Christine Jones - Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau
Cymdeithasol, Neil Ayling - Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol
Rhes gefn or chwith: Luke Pickering-Jones, Swyddog Cynllunio a Datblygu,
Rebecca Fitzpatrick - Bwcle, y Cynghorydd Andrew Williams - Bwcle a Ged
Fitzpatrick - Bwcle.