Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Deall arferion ailgylchu
  		Published: 05/04/2016
Gofynnir i Gynghorwyr Sir y Fflint, Cynghorau Tref a Chymuned, trigolion a 
defnyddwyr gwasanaeth gymryd rhan mewn arolwg dros yr wythnosau nesaf, i 
helpur Cyngor i ddeall anghenion lleol, fel y gellir cynnal adolygiad llawn o 
Gasglu Gwastraff, Ailgylchu Gwastraff y Cartref a Pholisi Safleoedd Banciau 
Ailgylchu.    Maer adolygiad yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn 
cyflawni targedau ailgylchu statudol heriol yn y dyfodol gan Lywodraeth Cymru. 
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer 
Strategaeth Wastraff:
鈥淲rth ddiolch in trigolion am eu cefnogaeth barhaus, drwy ddewis ailgylchu 
mwy, gallwn ni i gyd helpu i wneud Sir y Fflint yn lanach ac yn wyrddach, gan 
arbed 拢1,330,000 bob blwyddyn - arian y gellid ei wario ar wasanaethau hanfodol 
eraill o amgylch y sir. 
鈥淩ydym bellach yn ailgylchu dros 58% o wastraff, ond maen rhaid i ni wneud 
mwy.  Maen rhaid i bob Cyngor yng Nghymru ailgylchu o leiaf 70% ou gwastraff 
erbyn 2025. Mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o ailgylchu mwy heddiw er mwyn 
sicrhau y gallwn leihau ein costau tirlenwi ac osgoi dirwyon sylweddol am 
beidio ailgylchu digon yn y dyfodol.
鈥淗offem wybod mwy am arferion ailgylchu cartref, fel y gallwn ddod o hyd i 
ffyrdd o helpu pobl i ailgylchu mwy.鈥
Mae gwybodaeth am sut i gymryd rhan yn yr arolwg ar gael ar wefan y Cyngor 
www.siryfflint.gov.uk/AilgylchuMwy   Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 29 
Ebrill.