Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Theatr Gyfrinachol yn y Fflint 
  		Published: 23/03/2016
Dylai pobl o amgylch y Fflint ac yn y Fflint gadw eu llygaid au clustiau ar 
agor yn ystod Dydd Sul y Pasg a dydd Llun Gwyl y Banc ... yn y Fflint ac o 
amgylch y Fflint, er enghraifft.... yn y Castell... neu ar Stryd Fawr y 
Fflint.... neu efallai hyd yn oed mewn archfarchnad adnabyddus yn y Fflint tua 
1.30pm, 2.30pm neu 3.30pm....   
Mae 2016 yn nodi 400 mlynedd ers marwolaeth Shakespeare.   Ac yn ystod y Pasg 
eleni mae Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru syn 
gyfrifol am ddiogelu a chadw nifer o gofebion, gan gynnwys Castell y Fflint, a 
Gwasanaeth Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Cyngor Sir y Fflint yn noddi 
digwyddiadau anarferol a chyffrous i ddathlu cysylltiad arbennig y Bardd 芒 
Chastell y Fflint. 
Nid yw pawb yn gwybod fod y Brenin yn ildio i fyddin gwrthryfelwyr Henry 
Bolingbroke yng Nghastell y Fflint, yn y ddrama wych, Richard II gan 
Shakespeare.  Yna gorymdeithir Richard i Lundain lle y maen ildior goron ac 
yn cael ei ladd, gan arwain y ffordd i Bolingbroke i ddod yn Frenin yn ei le - 
Henry IV.
Dywedodd Kevin Jones, yr Aelod Cabinet sy鈥檔 gyfrifol am Hamdden:  
Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gymryd rhan yn y digwyddiad partneriaeth 
cyffrous hwn sydd yn dod 芒r ddrama eiconig ai gysylltiad 芒 Chastell y Fflint 
yn fyw i gynulleidfaoedd lleol ac ymwelwyr.  
Dylid amlygu a hyrwyddor cysylltiad rhwng y Fflint a Shakespeare yn eang mewn 
nod i ddenu mwy o ymwelwyr ir ardal, ac yn ystod Blwyddyn Antur Cymru nid oes 
cyfnod gwell i gyflwyno perfformiadau dramatig a digwyddiadau ymgysylltiol yn 
ein trefi a safleoedd hanesyddol.  
Dywedodd Janys Chambers, awdures a gafodd ei henwebu ar gyfer gwobr BAFTA a 
chyfarwyddwr y digwyddiad: 
Nid ydym eisiau rhoi gormod o wybodaeth, ond ar hyn o bryd mae theatr dros dro 
yn boblogaidd iawn, ac ar Sul y Pasg a dydd Llun y Pasg, efallai y byddain 
syniad i chi dreulio eich prynhawniau yn y Fflint ac o amgylch y Fflint, er 
enghraifft.... yn y Castell,.... neu ar Stryd Fawr y Fflint.... neu mewn 
archfarchnad adnabyddus yn y Fflint tua 1.30pm, 2.30pm neu 3.30pm....   
Dydych chi byth yn gwybod pa gymeriadau hanesyddol lliwgar a all ymddangos.... 
na beth fyddant yn ei wneud! 
Efallai y bydd y perfformiadau cyfrinachol yn cynnwys yr actor Richard Hand 
(Emmerdale, Coronation Street, Hollyoaks) yr actor Cymreig poblogaidd Richard 
Shackley (Clwyd Theatr Cymru, Theatr Iolo) a Jessica Loren, actores ifanc 
newydd. 
Ychwanegodd Janys: 
Credwn y bydd ein digwyddiadau annisgwyl yn llawn hwyl ar gyfer pobl leol ac 
ymwelwyr, wrth i ni ddathlu safle Cymreig eiconig an dramodydd gorau erioed. 
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch 芒 Trefor Lloyd Roberts, Swyddog Datblygu 
Celfyddydau CSFf Trefor.l.roberts@flintshire.gov.uk  01352 704027.