Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		50fed Cwsmer Bodlon!
  		Published: 21/03/2016
Cyngor Sir y Fflint oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i sefydlu ei 
gwmni tai ei hun yn 2014.
Llai na dwy flynedd ers hynny ac maer cwmnin mynd o nerth i nerth. 
Wedii gynllunio i ymateb ir heriau a brofir gan drigolion wrth gael mynediad 
at dai fforddiadwy, mae NEW Homes (Tai Gogledd Ddwyrain Cymru) wedi ei sefydlu 
gan y Cyngor i gynyddur opsiynau tai sydd ar gael i drigolion lleol. Maen 
cynnig nifer o wasanaethau rheoli tai wedi’u teilwra sydd wediu cynllunio i 
gynyddu nifer ac ansawdd y tai fforddiadwy ar draws y sir.   
Ac maer cwmni newydd rentu ei 50fed eiddo yn Overlea Drive, Penarlâg. 
Dywedodd Rheolwr NEW Homes, Phil Gilbert: 
Maen bleser gallu trosglwyddor goriadau in 50fed eiddo rhent mewn llai na 2 
flynedd i Andrew Trinder.   Gobeithiwn y gallwn barhau i ddarparu eiddo rhent o 
ansawdd a gwasanaeth o ansawdd i drigolion Sir y Fflint am flynyddoedd i ddod. 
Dywedodd y Cyng. Bernie Attridge, Cadeirydd Bwrdd NEW Homes a Dirprwy Arweinydd 
Cyngor Sir y Fflint:
Roeddwn yn gwbl hyderus y byddai NEW Homes yn llwyddiant mawr ac roeddwn yn 
iawn.   Yn Sir y Fflint, rydym yn parhau i weithio i ddiwallu anghenion ein 
trigolion trwy gynlluniau cyffrous fel hyn syn gwellar opsiynau tai sydd ar 
gael in preswylwyr yn sylweddol. 
Yn ogystal â rhentu ei eiddo ei hun, mae gan NEW Homes ystod o gynigion ar 
gyfer landlordiaid sydd i gyd yn cynnwys gwasanaethau parod i denantiaid’. 
Maer cwmni yn cynnig gwasanaeth gosod a rheoli eiddo a reolir yn llawn, a 
chynnig unigryw i berchnogion tai dros 55 oed i brydlesu eu heiddo ir cwmni a 
chael mynediad i eiddo cyngor addas.  
Mae NEW Homes yn eiddo llwyr i Gyngor Sir y Fflint. 
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cwmni ar gwasanaethau a gynigir trwy fynd 
i wefan NEW Homes
www.northeastwaleshomes.co.uk neu ffonio NEW Homes ar 01352 701400.
or chwith: Phil Gilbert, Rheolwr dros dro NEW Homes, Cyng Bernie Attridge, 
Cadeirydd y Bwrdd NEW Homes, Andrew Trinder, Melville Evans, Swyddog Arweiniol 
NEW Homes