Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2016
  		Published: 18/03/2016
Yr wythnos nesaf, bydd gofyn i Gabinet Sir y Fflint gymeradwyo Asesiad o 
Ddigonolrwydd Chwarae y Sir 2016 ar Cynllun Gweithredu 2016/17 dilynol sydd 
angen ei anfon at Lywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Mawrth.
Dywedodd y Cyng. Kevin Jones, yr Aelod Cabinet dros Hamdden:
 鈥淔el awdurdod lleol, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol o dan y Mesur Plant a 
Theuluoedd (Cymru) 2010 i roi gwybod i Lywodraeth Cymru am ddarpariaeth 
cynlluniau chwarae a mannau chwarae yn y sir. Trwy gynnwys yr asesiad hwn gyda 
chynigion yn y dyfodol ar gyfer cynnal mannau chwarae a chynlluniau chwarae 
haf, mae hyn yn darparu trosolwg llawn o ddarpariaeth chwarae yn ein Sir.鈥
Maer adroddiad yn cyfeirio at y rhaglen cynllun chwarae dros yr haf ar gyfer 
2015 yn ogystal 芒 thrafod goblygiadau ariannol ar gyfer cyflwyno cynllun 
chwarae haf yn 2016 a 2017.
Yn ogystal, bydd gofyn i鈥檙 Cabinet  argymell bod Fforwm Chwarae Strategol Sir y 
Fflint yn cael ei ddiwygio yn 2016 i ffurfio fforwm aml-asiantaeth i arwain a 
monitror Cynllun Gweithredu Asesiad o Ddigonolrwydd Chwarae 2016.  
Nid yw cyllid Teuluoedd yn Gyntaf gan Lywodraeth Cymru ar gael bellach i 
gefnogir gwaith o gyflawnir cynllun chwarae yr haf hwn. Mae Cyngor Sir y 
Fflint wedi ymrwymo i ddod o hyd i gyllid am un flwyddyn i sicrhau bod arian ar 
gael ar gyfer yr haf hwn. Mae effaith y golled hon o gyllid yn effeithio ar 
gyflwynor rhaglen haf 2017.
Gofynnwyd i Gynghorau Tref a Chymuned ystyried cynyddu eu cyfraniad ac i 
archwilio modelau cyflenwi amgen i gynnal y ddarpariaeth o gynlluniau chwarae 
yn eu hardaloedd. Bydd cyfnod o gynllunio ac ymgynghori yn awr yn cael ei 
gynnal er mwyn gallu ei gyflawni yn haf 2017.
Mae Llyfrgelloedd a Gwasanaethau Hamdden wedi datblygu model darparu amgen syn 
rhoi cyfle i鈥檙 cyngor leihau effaith gostyngiad ar ardaloedd chwarae ag offer i 
blant gan helpu i ddiogelu cyfleoedd chwarae i blant yn y sir. 
Bydd y model darparu amgen yn galluogi i ragor o ardaloedd chwarae fesul 
cymuned gael eu rhedeg gan y Cyngor.  Mae hyn oherwydd y cynnydd mewn arbedion 
effeithlonrwydd y bydd y model darparu amgen yn ei greu. Os cytunir ar hyn, 
byddai trafodaethau pellach gyda chymunedau yn digwydd dros y misoedd nesaf, a 
byddai gofyn i gymunedau ystyried sut y byddai鈥檙 ardaloedd chwarae sy鈥檔 weddill 
yn cael eu rheoli ar lefel cymunedol.
Os caiff ei gymeradwyo gan y Cabinet, bydd yn mynd ymlaen i鈥檙 Pwyllgor Trosolwg 
a Chraffu Newid Sefydliadol ar 29 Mawrth.