Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn symud ymlaen
Published: 18/03/2016
Maer Cyngor wedi ymrwymo i weithio gyda grwpiau cymunedol a phobl leol i
sicrhau bod trosglwyddo asedau i gymunedau lleol yn Sir y Fflint yn
llwyddiannus ac yn gynaliadwy yn y tymor hir.
Canolfan Bentref Gwernymynydd ywr cyfleuster diweddaraf i gael ei gymryd
drosodd gan grwp cymunedol lleol, o dan gynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol y
Cyngor (CAT). Cymerodd Pwyllgor Rheoli Canolfan Bentref Gwernymynydd
gyfrifoldeb ffurfiol am y ganolfan yn gynharach yr wythnos hon ar ran y
gymuned, yn dilyn cwblhau cytundeb ffurfiol gydar Cyngor.
Mae cyn-gyfleusterau eraill y Cyngor a drosglwyddwyd eisoes i grwpiau cymunedol
o dan y cynllun CAT yn cynnwys Neuadd Bentref Carmel a chyfleusterau cyhoeddus
Caerwys.
Mae 103 datganiad o ddiddordeb wedi dod i law ac wediu cymeradwyo ar gyfer 208
o asedau cymunedol ers ir Cyngor ail-lansio ei gynllun CAT ym mis Tachwedd
2014. Or rhain, mae 12 cynllun busnes wedi cael eu cymeradwyo ar gyfer 18 ased
cymunedol gydar nod o gael rhwng 7 a 12 CAT llawn erbyn diwedd mis Mawrth
2016. Byddair CAT hyn o bosibl yn cynnwys; Canolfan Gymunedol Trelogan,
Rhandiroedd Cei Connah, Man Chwarae Gwesbyr, Cofeb Ryfel Bagillt, Pwll Nofio
Cei Connah a Chanolfan Gymunedol Argoed (gan gynnwys Llyfrgell Mynydd Isa).
Maer arbedion a amcangyfrifir ir Cyngor o drosglwyddor asedau hyn dros
拢0.330 miliwn o arbedion refeniwr flwyddyn, yn ogystal ag arbediad sydd wedi鈥檌
amcangyfrif o 拢0.600 miliwn ar gostau cynnal a chadw.
Dros y deuddeg mis nesaf, maer Cyngor yn rhagweld y gellid dyblu nifer y CAT y
gellid eu cwblhau, a gall o bosibl gynnwys Canolfan Hamdden Treffynnon,
Llyfrgell Yr Hob a Llyfrgell Saltney, a allai arbed 拢0.350 miliwn arall mewn
refeniwr flwyddyn i鈥檙 Cyngor, yn ogystal 芒 diogelu鈥檙 cyfleusterau hyn.
Dywedodd y Cyng. Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet
yr Amgylchedd;
鈥淕yda chymaint o ddatganiadau o ddiddordeb ar draws ystod o asedau ac ardaloedd
daearyddol, maen amlwg bod llawer o gynghorau tref a chymuned, grwpiau
elusennol a chymunedol, yn gweld yr angen gwirioneddol i gymryd yr asedau hyn
au rhedeg er lles eu cymunedau lleol. Rwyn hyderus y bydd y cynllun CAT yn
cadw llawer mwy o asedau cymunedol a werthfawrogir yn fawr, wrth ddarparu
arbedion sylweddol ir Cyngor hefyd.
Hoffwn gydnabod ymrwymiad a brwdfrydedd Pwyllgor Rheoli Neuadd Bentref
Gwernymynydd am weithio mor galed gydar Cyngor er mwyn sicrhau dyfodol y
cyfleuster gwych hwn.
Dywedodd y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor:
鈥淩ydym wedi cael ymateb mor gadarnhaol ir cynllun CAT gan lawer on cymunedau.
Drwy ymgysylltu 芒n cymunedau lleol, mae鈥檔 wych cael gwych ein bod yn ymdrechu
i ddod o hyd i atebion tymor hir a fydd, gobeithio, yn cynnal ein gwasanaethau
a鈥檔 hasedau lleol ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer adfywio a menter
gymdeithasol. Mae hyn yn gwbl hanfodol ar adeg o doriadau cyllido cenedlaethol
digynsail i wasanaethau cyhoeddus.
Meddai Kevin Hughes, Cadeirydd Pwyllgor Rheoli鈥檙 Ganolfan Bentref:
鈥淔el t卯m rheoli, roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig diogelu鈥檙 Ganolfan Bentref
ar gyfer y gymuned. Mae ein hanes, yr ymrwymiad cymunedol ar ffaith fod y
pwyllgor wedi鈥檌 sefydlun dda yn wreiddiol, wedi ein rhoi mewn sefyllfa dda i
ddelio 芒 chymryd y brydles drosodd. Er bod y broses hon yn gymhleth, cawsom
help mawr gan swyddogion a chyfreithwyr Cyngor Sir y Fflint a wnaeth ein tywys
drwy bopeth yr oeddem angen ei wneud. Rydym yn falch iawn o gymryd y brydles
ac yn edrych ymlaen at sicrhau bod y Ganolfan Bentref yn cael ei defnyddio gan
y gymuned am flynyddoedd i ddod.鈥
Mae rhagor o fanylion am y cynllun CAT ar gael gan Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir
y Fflint. Gallwch gysylltu 芒 Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint dros y ff么n
ar 01352 744000 neu drwy e-bostio info@flvc.org.uk
Nodyn i olygyddion
Yn y llun amgaeedig (o鈥檙 chwith i鈥檙 dde) mae: Ian Bancroft, Prif Swyddog Newid
Trefniadol, Kevin Hughes,
Cadeirydd Pwyllgor y Ganolfan Bentref, Helen Roberts, Trysorydd Pwyllgor y
Ganolfan Pentref, y Cynghorydd Nancy Matthews,