Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cofrestrwch i bleidleisio
  		Published: 18/03/2016
Wrth i brif ymgyrch hysbysebu cenedlaethol gael ei lansio ledled Cymru i annog 
pleidleiswyr i gofrestru cyn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a 
Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, mae Cyngor Sir y Fflint yn annog pobl leol 
i ymweld 芒 www.gov.uk/register-to-vote i gofrestru i bleidleisio. 
Ar ddydd Iau 5 Mai bydd pleidleiswyr yng Nghymru yn mynd i bleidleisio i ethol 
Aelod Cynulliad a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu. 
Maer Comisiwn Etholiadol wedi lansio ei ymgyrch cofrestru pleidleiswyr 
cenedlaethol i atgoffa pobl i gofrestru erbyn y dyddiad cau sef dydd Llun 18 
Ebrill. Yng Nghymru, bydd hysbysebion yn ymddangos ar y teledu, radio a 
gwasanaethau fideo ar alw ar lein. Mae hyn yn ychwanegol at y gwaith sydd 
eisoes yn cael ei wneud ar draws Cymru gan y Comisiwn a sefydliadau partner, a 
ddechreuodd yn gynharach eleni. 
Dywedodd Colin Everett, y Swyddog Canlyniadau:
鈥淢ae amser nawr yn rhedeg allan i wneud yn siwr y gallwch chi gymryd rhan yn yr 
etholiadau pwysig hyn yng Nghymru, felly byddwn yn annog pawb yn Sir y Fflint i 
weithredu nawr os nad ydynt wedi cofrestru i bleidleisio. Mae ein neges yn 
syml: ni allwch bleidleisio, os nad ydych wedi cofrestru erbyn 18 Ebrill.  
Maen hawdd ac ond yn cymryd ychydig funudau ar-lein- ewch i 
www.gov.uk/register-to-vote
Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth Swyddfa Comisiwn Etholiadol, Cymru:
鈥淢ae ein hymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd ar draws Cymru yn anelu i annog 
unrhyw un sydd heb gofrestru eto, i wneud hynny cyn gynted ag y bo modd. Mae 
ein gwaith ymchwil yn dangos bod pobl ifanc, myfyrwyr a phobl sydd wedi symud 
cartref  yn ddiweddar yn llai tebygol o gofrestru i bleidleisio. Os nad ydych 
wedi cofrestru, ni fyddwch yn gallu dweud eich dweud ar faterion syn 
effeithion uniongyrchol ar eich bywyd o ddydd i ddydd yng Nghymru. 
鈥淢ae cofrestru i bleidleisio yn gyflym ac yn hawdd i鈥檞 wneud ar-lein yn 
gov.uk/register-to-vote,  mae gennych tan ddydd Llun 18 Ebrill yn unig os ydych 
am bleidleisio yn yr etholiadau pwysig hyn yng Nghymru ym mis Mai.