Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwaith adeiladu yn dechrau ar gam cyntaf rhaglen tai Sir y Fflint
Published: 14/03/2016
Gwaith adeiladu yn dechrau ar gam cyntaf rhaglen tai Sir y Fflint
?Mae datblygwr adeiladu cenedlaethol, Wates Living Space Homes, wedi dechrau
adeiladu鈥檙 casgliad cyntaf o gartrefi newydd o dan Rhaglen Tai ac Adfywio
Strategol (SHARP) uchelgeisiol Cyngor Sir y Fflint.
Yn 2015, fe gyhoeddwyd mai nhw oedd partner tai y cyngor, ac mae鈥檙 datblygwr
bellach wedi cychwyn ar y gwaith adeiladu o greu 12 cartref newydd ar safle Hen
Ysgol Custom House yng Nghei Connah.
Bydd y datblygiad newydd yn rhan o gynlluniau Cyngor Sir y Fflint i adeiladu
tua 500 o gartrefi newydd ar draws y sir erbyn 2020 er mwyn ateb y galw
cynyddol am dai cymdeithasol a fforddiadwy.
Rhoddwyd caniat芒d cynllunio ym mis Rhagfyr y llynedd, ac maer cartrefi newydd
yng Nghei Connah wedi cael eu cynllunio i ymgorffori gwaith brics glas a
nodweddion eiconig sydd wedi鈥檜 hadfer o hen adeilad Ysgol Custom House.
Rhaglen SHARP flaenllaw y cyngor yw鈥檙 cyntaf oi fath yng Nghymru, a bydd yn
golygu bod hyd at 2,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn ogystal 芒 chreu tua 20
swydd prentis i bobl leol. Amcangyfrifir y bydd isgontractwyr Sir y Fflint yn
elwa ar becynnau gwaith gwerth 拢40m drwy gydol y rhaglen.
Daw cychwyn y gwaith yng Nghei Connah yn fuan ar 么l cyhoeddiad ym mis Chwefror
bod caniat芒d cynllunio wedi鈥檌 roi i adeiladu 92 o dai yn The Walks yn Y Fflint,
yn rhan o raglen SHARP.
Dywedodd Y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor:
鈥淩wyn falch iawn mai Sir y Fflint ywr Cyngor cyntaf yng ngogledd Cymru i
ddechrau rhaglen adeiladu tai cyngor. Dymar datblygiad cyntaf o dan gynlluniau
SHARP uchelgeisiol y Cyngor, a gyda chaniat芒d cynllunio wedi鈥檌 roi yn ddiweddar
ar gyfer dros 90 o dai cyngor a fforddiadwy yn safle The Walks yn y Fflint, mae
ein dyheadau bellach yn troi鈥檔 realiti.
鈥淢aer Cyngor wedi ymrwymo i fynd ir afael 芒r argyfwng tai yn uniongyrchol yn
2016 ac rwyn falch y bydd y tai cyngor newydd cyntaf i gael eu hadeiladu mewn
cenhedlaeth yn ein Sir, yn cael eu hadeiladu yng Nghei Connah.鈥
Dywedodd Y Cyng. Helen Brown, yr Aelod Cabinet Tai:
鈥淏ydd adfywior safle hwn yn gwellar cyfleoedd tai sydd ar gael i bobl leol
syn byw yng Nghei Connah a bydd yn nodi dechraur cyfnod cyffrous iawn dros y
pum mlynedd nesaf, pan fydd tai fforddiadwy newydd sydd fawr eu hangen, yn cael
eu darparu ar draws y Sir.
Dywedodd Joanne Jamieson, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Living Space Homes:
鈥淢ae dechraur gwaith adeiladu yn garreg filltir arwyddocaol wrth fynd ir
afael 芒 galw lleol am dai o safon uchel sy鈥檔 effeithlon o ran ynni yn Sir y
Fflint.
鈥淒rwy weithion agos 芒r cyngor rydym yn deall arwyddoc芒d lleol yr hen Ysgol
Custom House, ac rydym wedi cymryd camau i ddiogelu rhywfaint o nodweddion yr
adeilad gwreiddiol. Rydym yn gobeithio y bydd hyn, ynghyd 芒n hymdrechion i
greu cyfleoedd helaeth ar gyfer hyfforddiant a chyflogaeth, yn arwain at
brosiect cyffrous a fydd o fudd gwirioneddol i Sir y Fflint ar gymuned leol.鈥
Nodyn i olygyddion
Or chwith
Ian Power Wates Living Space Homes, Adrian Cronin, Wates Living Space Homes,
Cyng. Bernie Attridge, Cyng.r. Brian Dunn, Mick Cunningham, Wates Living Space
Homes, Cyng. Helen Brown, ac Cllr. Aaron Shotton
Ynglyn 芒 Wates Living Space
Wates Living Space, rhan o Grwp Wates, yw un o brif ddarparwyr tai fforddiadwy
a chynnal a chadwr DU. Gan weithredu ar draws y DU, mae鈥檔 canolbwyntio ar
weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid cymdeithasau tai yn eu cymunedau
lleol i adeiladu mwy o gartrefi a gwella tai presennol drwy waith cynnal a
chadw cynlluniedig ac ymatebol.
Mae Grwp Wates, a sefydlwyd dros 119 o flynyddoedd yn 么l, yn cyflogi tua 4,000
o bobl a gyda throsiant o dros 拢1 biliwn yn 2014. Grwp Wates oedd y contractwr
mawr cyntaf erioed i gael ei ddyfarnu gyda Marc Cymunedol Busnes yn y Gymuned,
ac yn 2013 cafodd y Wobr Busnes Cenedlaethol gyntaf am Ddinasyddiaeth
Gorfforaethol, i gydnabod ei arweinyddiaeth a rhagoriaeth mewn buddsoddi yn y
gymuned.