Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwyddiant yn nigwyddiad 鈥楧ragon鈥檚 Den鈥�
Published: 11/03/2016
Cynhaliwyd digwyddiad tebyg i 鈥楧ragon鈥檚 Den鈥� yng Ngholeg Cambria ar ddydd
Gwener 26 Chwefror.
Roedd y digwyddiad am ddim wedii anelu at bobl sydd am fod yn fos arnynt eu
hunain ac angen help i ddod yn entrepreneur.
Roedd y digwyddiad yn llwyddiant gyda 7 o entrepreneuriaid yn mynychu i
gyflwyno eu syniad ir Dreigiau ac maent i gyd wedi derbyn adborth cadarnhaol.
Y Dreigiau a gefnogodd y digwyddiad gan wirfoddoli eu hamser oedd Askar
Sheibank, Prif Swyddog Gweithredol Comtek Network Systems, Christine Sheibani,
Cyfarwyddwr AD Comtek Network Systems, Dave Fildes, Rheolwr Gyfarwyddwr Dfs4
SME Business Consultants & Mentors a Mike Scott o Mike Scott Associates.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor
Sir y Fflint: 鈥淩wyn falch iawn bod y digwyddiad hwn yn llwyddiant mawr. Maer
gefnogaeth ar cyngor a roddir mewn digwyddiadau fel y rhain i ddarpar
entrepreneuriaid yn wirioneddol galonogol ac i gyd yn rhan or gwaith rhagorol
syn digwydd ledled y sir i helpu pobl leol i gael gwaith.
Trefnwyd y digwyddiad hwn gan Gymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint gyda chymorth
gan Gyngor Sir y Fflint.
Gan barhau or digwyddiad hwn, mae Clwb Menter Sir y Fflint sydd 芒鈥檜 haelodau i
gyd yn entrepreneuriaid, yn cynnig gwybodaeth am ddim a gweithdai gyda
siaradwyr ysbrydoledig o wahanol sefydliadau a sefydliad addysg uwch ac addysg
bellach. Maer clwb yn rhad ac am ddim i鈥檞 fynychu ac yn cyfarfod bob
pythefnos ar Gampws Cymunedol John Summers, Chester Road East, Y Fferi Isaf,
Glannau Dyfrdwy CH5 1SE. Cynhelir y cyfarfodydd bob yn ail ddydd Gwener o
10.30am tan 12:30pm.
or chwith: -
Christine & Askar Sheibani, Comtek,Beverly Moseley, Communities First, Barry
Evans, Evolift, Sharon Jones, Communities First, Jacqueline Blythe, JCPlus,
Cllr Ian Dunbar, Cllr Andy Dunbobbin, Ewa Hogarth Jones, Word of Mouth
Languages, Rona Griffiths, Coleg Cambria, Cllr Paul Shotton, Dave Fildes, DFS4,
Jane Davies, JCPlus, Kate Thew, Communities First, Lynne Taylor, JCPlus, Lynn
Williams, Coleg Cambria.