Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Sir y Fflint yn dathlu merched yn adeiladu
  		Published: 08/03/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth 
eleni drwy ddathlu merched yn adeiladu.
Yn y DU, mae merched yn cyfrif am ddim ond 11% or gweithlu adeiladu, a dim ond 
1% o weithwyr ar safle, yn 么l ffigurau ar wefan UCATT (Undeb Adeiladu, Crefftau 
Perthynol a Thechnegwyr).  Maer Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod nifer y 
merched syn gweithio fel towyr, bricwyr a gwydrwyr mor isel ei fod yn 
anfesuradwy.
Mae Sir y Fflint yn mynd yn groes ir duedd hon, gyda 25% ou t卯m Gwaith 
Cyfalaf yn ferched.  Maer t卯m hwn yn gweithio ar Raglen Safon Ansawdd Tai 
Cymru (SATC), er mwyn sicrhau bod yr holl dai cyngor yn cyrraedd y safon erbyn 
2020.  Mae gan d卯m atgyweirio a chynnal a chadw Sir y Fflint drydanwr benywaidd 
cyntaf y Cyngor hefyd.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet Tai:
鈥淩wyn falch o ddweud bod Cyngor Sir y Fflint ar y blaen o ran annog merched i 
weithio yn y diwydiant adeiladu.   Nid yn unig y mae gennym ferched yn ein t卯m 
Gwaith Cyfalaf, ond rydym hefyd yn gweithio gydan partneriaid a鈥檔 contractwyr 
i ysbrydoli merched ifanc i fanteisio ar y nifer o brentisiaethau sy鈥檔 cael eu 
creu yn y sir.鈥
Dyma rai ou straeon:
Dywedodd Karen Stevens, Swyddog Cyswllt Tenantiaid:
鈥淒echreuais y r么l hon ym mis Awst 2015 ac mae gen i gefndir mewn rheoli tai. 
Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda phobl a鈥檜 helpu, ac rwy鈥檔 gallu gweld pan 
fydd pobl yn cael trafferth gyda thasgau o ddydd i ddydd neu鈥檔 cael 
anawsterau.  Rwyn treulio 80% or amser ar y safle, boed hi鈥檔 law, cenllysg 
neu hindda ac rwyf wrth fy modd.鈥
Mae Hazel Oliver hefyd yn Swyddog Cyswllt Tenantiaid.  Dechreuodd weithio ym 
maes Atgyweirio Tai 12 mlynedd yn 么l, gan symud ymlaen drwy waith prisio a 
chynllunio cyn symud iw r么l bresennol. Treuliodd beth amser yn y sector 
preifat, fel contractwr a chyflenwr, a roddodd fewnwelediad da iddi i agweddau 
gwahanol o鈥檙 busnes. Ar hyn o bryd, mae hin gweithio gyda dau gontractwr ar y 
rhaglen newid Ystafelloedd Ymolchi a systemau Gwresogi, or arolwg cychwynnol 
hyd at gwblhau鈥檙 gwaith. Meddai:
鈥淏yddaf yn ymweld 芒r eiddo yn rheolaidd yn ystod cyfnod y gwaith. Maen waith 
sy鈥檔 rhoi llawer o foddhad i mi. Maer rhan fwyaf o fy amser yn cael ei dreulio 
allan ar y safle ac rwyn cael cwrdd 芒 llawer o bobl wych ar hyd y ffordd.鈥
Dywedodd Christine Stewart, Archwilydd System SATC:
 鈥淪ymudais ir t卯m Gwaith Cyfalaf or ganolfan gyswllt Atgyweirio a Chynnal a 
Chadw 鈥 gan ddelio bob dydd  gyda thenantiaid, gweithwyr cefnogi, peirianwyr 
cynnal a chadw a chontractwyr. Roedd hyn yn brofiad ardderchog ar gyfer fy 
swydd bresennol lle rwyn gwirio, coladu a bwydo gwybodaeth i mewn ir Rhaglen 
Gwaith Cyfalaf, gan sicrhau bod y data yn gywir ac yn gyfredol.  Mae bod yn y 
swyddfa yn golygu y gallaf fod yn bwynt
cyswllt ar gyfer ymholiadau tenantiaid, contractwyr a llu o asiantaethau mewnol 
ac allanol eraill, syn ychwanegu dimensiwn ychwanegol at fy r么l.
鈥淩wyf wir yn mwynhau pob agwedd ar fy ngwaith, maen amrywiol, rydym yn d卯m 
gwych ac nid oes byth eiliad ddiflas.鈥