Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Olwynion sych or diwedd
  		Published: 02/03/2016
Mae Peirianwyr Cyngor Sir y Fflint a swyddogion Hawliau Tramwy a Chefn Gwlad 
wedi dod at ei gilydd i greu llwybr beicio amgen o dan Bont Penarl芒g.
Yn dilyn y stormydd drwg a gafwyd dros y blynyddoedd diwethaf, roedd arglawdd 
wedi torri a oedd yn golygu bod y llwybr beicio presennol yn gorlifo yn ystod 
pob llanw uchel. Gyda chyllid Llwybr Arfordir Cymru, mae 拢20,000 wedi cael ei 
sicrhau i osod llwybr arall ar ben yr arglawdd llifogydd.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd:
Rwyn falch ein bod wedi gallu penodi contractwr i wellar llwybr troed ar 
trac beicio ger Pont Reilffordd Penarl芒g yn Shotton. Maer ardal yn un 
boblogaidd ymysg seiclwyr a defnyddwyr llwybrau troed ond yn aml maen gorlifo 
yn ystod llanw uchel. Bydd y llwybr newydd yn rhoi dewis mwy diogel i 
ddefnyddwyr a bydd y gymuned leol ar nifer o bobl syn defnyddior llwybr hwn 
yn elwa.
Disgwylir ir gwaith ddechrau ddydd Llun 7 Mawrth a phara pythefnos. Bydd angen 
cau rhan fechan or trac beicio yn ystod y cyfnod hwn, maer cyngor am sicrhau 
ei fod yn tarfu cyn lleied ag syn bosibl ar y cyhoedd tra bor gwaith hanfodol 
hwn yn cael ei wneud.