Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gweinidog yn agor ysgol newydd or radd flaenaf sy鈥檔 werth £6.4 miliwn yn Shotton
  		Published: 29/02/2016
Bydd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg yn agor ysgol newydd sbon ddiweddaraf Cymru, 
syn werth miliynau o bunnoedd, yn Shotton heddiw (dydd Llun 29 Chwefror).
Datblygiad newydd gwerth 拢6.4 miliwn yw Ysgol Gynradd Ty Ffynnon,聽 ac fei 
hariannwyd drwy Raglen Arian Pontio Llywodraeth Cymru. Ariannwyd y prosiect gan 
Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint mewn partneriaeth, a darparwyd 拢4.5 
miliwn or gost gan Lywodraeth Cymru. 
Erbyn hyn, disodlwyd rhaglen lwyddiannus聽 Arian Pontio Llywodraeth Cymru gan y 
Rhaglen Gyfalaf i sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif. Bydd y 
rhaglen ddiweddaraf hon yn cynnig buddsoddiad gwerth 拢1.4 biliwn mewn 
partneriaeth ag awdurdodau lleol i gynorthwyo ailadeiladu ac ailwampio dros 150 
o ysgolion a cholegau ledled Cymru.
聽
Maer ysgol hynod fodern hon yn cymryd lle Ysgol Fabanod Shotton ac Ysgol Iau 
Taliesin ac mae lle ynddi ar gyfer 245 o ddisgyblion cynradd a 30 o ddisgyblion 
meithrin.聽 Cafodd yr ysgol ei hadeiladu gan gwmni Read Construction Holdings 
Ltd o Wrecsam ar safler ysgol iau bresennol.聽 
Mae naw ystafell ddosbarth yn yr adeilad newydd a dau ddosbarth adnoddau ar 
gyfer plant ag anawsterau dysgu cymedrol. Yn ogystal 芒r rhain, mae gan yr 
ysgol feithrinfa, neuadd, stiwdio a chegin a chyfleusterau cymunedol yn 
ogystal.聽 Bydd y tir o gwmpas yr adeilad yn cael ei dirlunio i ddarparu mannau 
i chwarae ac i hamddena. 
Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg:
Maen rhoi pleser mawr i mi agor Ysgol Ty Ffynnon yn swyddogol.聽 Mae ysgolion 
fel hyn yn enghreifftiau or hyn y mae Llywodraeth Cymrun ceisioi gyflawni 
drwy ein rhaglenni buddsoddi, mewn partneriaeth 芒 llywodraeth leol. Rydym wedi 
ymroin llwyr i ddarparur amgylcheddau dysgu gorau er mwyn ysbrydoli athrawon, 
plant ar gymuned ehangach.
聽
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:  Maer 
ysgol newydd wedi cael ei hadeiladu i safon uchel er mwyn darparu cyfleusterau 
modern or radd flaenaf ar cyfleoedd dysgu gorau in plant. Mae agor yr ysgol 
yn swyddogol yn gychwyn cyfnod newydd o ran darparu addysg o ansawdd ir sir.
聽
Dywedodd Nia Goldsmith, y Pennaeth:  Maer disgyblion mor lwcus yn cael ysgol 
fendigedig ar gyfer y 21ain ganrif 芒r dechnoleg a鈥檙 adnoddau diweddaraf un. 
Maer disgyblion ar staff wrth eu boddau yn cael gweithio mewn amgylchedd mor 
ardderchog.
Dywedodd Richard Heaton, Rheolwr Gyfarwyddwr Read Construction:  Maen destun 
balchder i Read ein bod wedi cyflawnir prosiect partneriaeth pwysig hwn a bod 
Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru wedi rhoi statws Enghreifftiol ir prosiect, 
fel model o arfer gorau.