Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Aelodaur Cyngor yn ymweld â Llyfrgell newydd
  		Published: 29/02/2016
Yn ddiweddar, ymwelodd Cynghorwyr Sir y Fflint 芒 Chanolfan Hamdden Glannau 
Dyfrdwy i weld y canolbwynt llyfrgell newydd a agorir yn swyddogol ar 4 Mawrth, 
ac i archwilior gwelliannau mawr sydd wedi鈥檜 gwneud i du blaen y ganolfan 
hamdden.
Maer canolbwynt newydd yn rhan o fuddsoddiad gwerth 拢250,000 yng Nghanolfan 
Hamdden Glannau Dyfrdwy, gyda chyfraniadau ariannol mawr yn dod gan Lywodraeth 
Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor:
Mae Canolfan Hamdden a Llyfrgell Glannau Dyfrdwy yn atyniad o bwys yn Sir y 
Fflint a bydd y llyfrgell newydd ynghyd 芒r gwelliannau mawr sydd wedi鈥檜 gwneud 
i du blaen yr adeilad ar dderbynfa yn sicrhau ei fod yn lle deniadol i ymweld 
ag ef a鈥檌 fod yn parhau i fod yn dirnod lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod y Cabinet dros Addysg:
Rydym yn falch iawn o ddweud y bydd y llyfrgell newydd yn weithredol o鈥檙 
wythnos yma ymlaen. Maer llyfrgell ar gael iw defnyddio yn ystod holl oriau 
agor y ganolfan hamdden. Bydd mynediad ar gael at lyfrau a chyfrifiaduron drwy 
ddefnyddio cyfleusterau hunanwasanaeth. Maer llyfrgell wedi鈥檌 hariannu gan 
Lywodraeth Cymru fel rhan o raglen i foderneiddio llyfrgelloedd a鈥檜 lleoli ar y 
cyd 芒 gwasanaethau eraill yn y gymuned. 
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod y Cabinet dros Strategaeth Wastraff, 
Diogelur Cyhoedd a Hamdden:
Bydd buddsoddiad or gronfa Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn gwneud 
gwahaniaeth sylweddol i鈥檙 defnydd a wneir o鈥檙 ganolfan.  Bydd blaen yr adeilad 
yn llawer mwy hygyrch, diogel a deniadol i fynd i mewn iddo a bydd gwell 
cysylltiad rhwng y dderbynfa a鈥檙 llyfrgell newydd. Mae hyn yn ymateb i adborth 
a gawsom gan ddefnyddwyr y ganolfan hamdden a darpar ddefnyddwyr y llyfrgell. 
Maer llyfrgell wedi ei lleoli wrth ymyl caffi a chyntedd y ganolfan hamdden.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch 芒 Pennie Corbett, Prif Swyddog Llyfrgelloedd a鈥檙 
Celfyddydau drwy anfon e-bost at pennie.corbett@flintshire.gov.uk.