Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mwy o brentisiaid lleol!
Published: 29/02/2016
Mae鈥檙 ddau brentis newydd cyntaf wedi dechrau gweithio ar brosiect yn Saltney.
Maer Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu o leiaf 200 o gyfleoedd llafur lleol ac 20
o brentisiaethau drwy ei raglen Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) erbyn 2020.
Maer prentisiaid, Thomas Miller a Joseph Collin, yn gweithio gyda chwmni Mitie
a enillodd y contract i uwchraddio ceginau ac ystafelloedd ymolchi mewn 328 o
gartrefi. Roedd y ddau yn astudio plymio yng Ngholeg Cambria ac erbyn hyn maent
yn ennill profiad amhrisiadwy wrth weithio ochr yn ochr 芒 phlymwyr profiadol
cwmni Mitie yn gosod ystafelloedd ymolchi a cheginau.
Dywedodd Helen Brown, Aelod y Cabinet dros Dai, Maer cyfleoedd wedi cael eu
gwneud yn bosibl drwy gydweithio rhwng Cyngor Sir y Fflint, Coleg Cambria a
Procure Plus sy鈥檔 darparu鈥檙 fframwaith ar gyfer y prosiect. Mae鈥檙 Cyngor ar fin
sefydlu ei Academi Prentisiaid ei hun a lansir fis nesaf yn ystod Wythnos
Genedlaethol Prentisiaid.
Mae cefnogi鈥檙 bobl ifanc hyn yn dangos ymrwymiad y Cyngor i roi cyfle i
brentisiaid lleol weithio ar y SATC a chynlluniau eraill. Rwy鈥檔 hynod falch o
allu helpur bobl ifanc hyn syn cymryd eu camau cyntaf yn eu gyrfaoedd.
Maer ddau brentis yn falch iawn o allu derbyn profiad mor wych.
Meddai Joe, Roeddwn yn gweithio yn McDonalds ac roeddwn wedi gwneud cais am
ddwsinau o swyddi heb lwyddiant, nid oeddwn hyd yn oed yn cael ateb. Rwy鈥檔
falch iawn fy mod i wedi cael y cyfle gwych hwn i gwblhau fy NVQ.
Meddai Tom, Maer pecyn cymorth yr ydym wedi鈥檌 gael gan Procure Plus yn wych
ac maer cymorth a roddir gan y t卯m yno wedi bod yn ardderchog.
Dywedodd Matt Jarratt, Uwch Reolwr Gweithrediadau Procure Plus, Yn gyntaf oll,
mae Procure Plus yn gwmni adfywio sydd 芒 diddordeb mewn creu swyddi ar gyfer
ein cymunedau landlord. Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chyngor Sir
y Fflint a Choleg Cambria gan eu bod yn rhannu ein gwerthoedd ac wedi ymrwymo i
gyflogi pobl leol.
Meddai Craig Boath, Cyfarwyddwr busnes Northern Housing sy鈥檔 rhan o Mitie
Property Management:
Rydym yn ymroddedig i greu cyfleoedd ar draws ein busnes ac yn cydnabod y
manteision o gydweithion agos 芒 grwpiau cymunedol lleol a chynghorau megis
Cyngor Sir y Fflint, Coleg Cambria a Procure Plus i gefnogi cynlluniau megis y
prosiect SATC.
Rydym hefyd yn falch iawn o fod yn un o鈥檙 cwmn茂au sy鈥檔 cyflogi鈥檙 nifer fwyaf o
brentisiaid yn y DU ac rydym yn anelu at gadw鈥檙 momentwm hwn am flynyddoedd
lawer i ddod.