Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cynllun tai Sir y Fflint yn cael ail rownd o gymeradwyaeth
  		Published: 25/02/2016
Mae cynlluniau Cyngor Sir y Fflint i adeiladu tai fforddiadwy newydd ledled y 
Sir yn bwrw ymlaen 芒 chaniat芒d cynllunio a roddwyd bellach ar gyfer 92 o 
gartrefi newydd yn The Walks yn y Fflint.
Maer gymeradwyaeth yn dilyn cyhoeddiad Rhagfyr y bydd 12 o gartrefi newydd yn 
cael eu hadeiladu ar safle hen Ysgol Custom House yng Nghei Connah, gan 
gyfrannu at darged y Cyngor i adeiladu tua 500 o gartrefi newydd yn y pum 
mlynedd nesaf. 
Gan ffurfio rhan o Raglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) y Cyngor, bydd y 
datblygiadau newydd yn cael eu hadeiladu gan eu partner tai strategol, Wates 
Living Space Homes. Bydd y gwaith o adeiladur cartrefi newydd yn dechrau鈥檔 
ddiweddarach eleni, a fydd yn cynnwys creu 62 o dai a 30 o randai ar safle hen 
fflatiau deulawr The Walks.
Fel rhan or prosiect, mae Wates Living Space Homes a Chyngor Sir y Fflint wedi 
gwneud ymrwymiad ar y cyd i greu cyfleoedd helaeth ar gyfer hyfforddiant a 
chyflogaeth leol. Amcangyfrifir y bydd dros 2,000 o bobl yn cael eu cyflogi. 
Mae hyn yn cynnwys nifer o gyfleoedd hyfforddi a phrentisiaeth i bobl leol drwy 
gydol y rhaglen SHARP yn ystod y pum mlynedd nesaf. 
Bydd strategaeth buddsoddi cymunedol gynhwysfawr yn cael ei rhoi ar waith a 
fydd yn gweld ysgolion lleol a grwpiau cymunedol yn elwa o Gronfa Cymunedau 
SHARP sydd i fod i gael ei lansio ym mis Mai eleni.
Mae ymdrechion i ymgysylltu 芒 chyflenwyr lleol yn y gwaith wedi cynnwys 
digwyddiad Cwrdd 芒r Prynwr ar gyfer isgontractwyr lleol, gydag amcangyfrif y 
bydd gwerth 拢40m o becynnau gwaith is-gontractio yn mynd i gwmn茂au lleol. 
Dywedodd y Cyng. Helen Brown, yr Aelod Cabinet Tai: 
鈥淏ydd ailddatblygu The Walks yn nodi dechrau cyfnod cyffrous iawn ir Cyngor, 
mewn termau ymarferol, wrth wireddu ein huchelgais sefydledig i adfywio鈥檙 safle 
yn dilyn dymchwel hen fflatiau deulawr y Cyngor.  Bydd y cynllun newydd yn 
darparu tai newydd, fforddiadwy, o ansawdd uchel sydd wir eu hangen yn y 
Fflint.鈥
Dywedodd y Cyng. Ian Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Prif Gynllun y Fflint:
鈥淵nghyd 芒 fy nghyd gynghorwyr lleol, Alex Aldridge a David Cox, hoffwn ddiolch 
i bawb a gymerodd ran am eu gweledigaeth, eu sgiliau, eu hymroddiad a鈥檜 
penderfyniad i yrrur cynllun yn ei flaen. Bydd y cynllun ar 么l ei gwblhau yn 
sicr o roi bywyd newydd i鈥檙 Fflint.鈥 
Dywedodd Joanne Jamieson, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Living Space Homes: 
鈥淩haglen Tai ac Adfywio Strategol Cyngor Sir y Fflint ywr cyntaf oi math yng 
Nghymru. Drwy arloesi cynlluniau buddsoddi tai uchelgeisiol or fath, maer 
Cyngor yn darparu enghraifft flaenllaw o sut y gellir goresgyn prinder tai.