Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor Sir y Fflint yn bwriadu gwneud cais i atal yr Hawl i Brynu yn Sir y Fflint
Published: 23/02/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gwneud cais i Lywodraeth Cymru i atal yr Hawl i
Brynu ar gyfer pob un o dai鈥檙 cyngor. Dros y chwarter canrif diwethaf, mae
nifer y tai Cyngor sydd ar gael iw rhentu wedi lleihau drwy werthiannau Hawl i
Brynu, tra bod nifer y bobl sydd angen tai cyngor wedi parhau i godi.
Yn ystod 2016, bydd y Cyngor yn rhoi ei Raglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP)
ar waith pan fydd 500 o dai cyngor a fforddiadwy yn cael eu hadeiladu ar draws
Sir y Fflint dros y pum mlynedd nesaf. Y cyngor fydd yn rheoli鈥檙 tai cyngor
newydd. Bydd y 300 ty fforddiadwy arall yn cael eu rheoli gan gwmni tai newydd,
sef NEW Homes, sy鈥檔 eiddo i鈥檙 Cyngor.
Yn ddiweddar, cymeradwyodd y Cyngor gynlluniau ar gyfer i鈥檙 12 ty Cyngor newydd
cyntaf gael eu hadeiladu ar hen safle Ysgol Custom House yng Nghei Connah. Bydd
y tai newydd yn cael eu hadeiladu gan bartner Datblygur Cyngor Wates Living
Space a disgwylir i鈥檙 gwaith gychwyn ddiwedd mis Chwefror 2016.
Drwy atal yr Hawl i Brynu, bydd Sir y Fflint yn cadw ei stoc bresennol o dai
cyngor, a bydd hefyd yn diogelu鈥檙 tai newydd er mwyn creu cymaint o gyfleoedd 芒
phosibl i bobl leol gael byw yn Sir y Fflint. Bydd y Cyngor yn cyflwyno cais i
Lywodraeth Cymru i atal yr Hawl i Brynu am gyfnod o 5 mlynedd. Mae鈥檙
Llywodraeth Cymru presennol yn bwriadu llunio deddfwriaeth sylfaenol newydd -
Mesur - i roi terfyn ar yr Hawl i Brynu. Byddair Mesur drafft yn cael ei
baratoi er mwyn i Lywodraeth newydd Cymru ei ystyried fel rhan oi rhaglen
ddeddfwriaethol yn y Cynulliad nesaf.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor Aaron Shotton:
鈥淢ae darparu tai fforddiadwy o safon yn flaenoriaeth i Gyngor Sir y Fflint ac
mae atal yr Hawl i Brynu yn hanfodol i sicrhau ein bod yn cadw ein stoc tai
cyngor presennol ac at y dyfodol.
Dywedodd Clare Budden, Prif Swyddog Cymuned a Menter;
鈥淢ae atal yr Hawl i Brynu yn hanfodol er mwyn cymaint o gyfleoedd tai 芒 phosibl
i bob unigolyn a theulu sy鈥檔 byw ar hyd a lled Sir y Fflint, a bydd yn
atgyfnerthu ein cynlluniau yn y dyfodol er mwyn parhau i foderneiddio a
buddsoddi mewn tai Cyngor a gwasanaethau ar gyfer ein tenantiaid.鈥