Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyllideb i ddiogelu Sir y Fflint
Published: 16/02/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gorfod dod o hyd i darged arbedion digynsail o
dros 拢20 miliwn eleni o ganlyniad i ostyngiad sylweddol pellach mewn cymorth
grant y Llywodraeth ac anghenion cynyddol o fewn ein Sir, mewn meysydd megis
gofal cymdeithasol.
Er gwaethaf yr her sylweddol hon, mae Sir y Fflint wedi llwyddo i gyrraedd
cyllideb gytbwys a argymhellwyd ar gyfer 2016/17.
Cyn cyfarfod y Cyngor Llawn ar osod cyllideb, dydd Mawrth 16 Chwefror, dywedodd
Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton,
鈥淢ae cyllideb eleni yn blaenoriaethu dyfodol ein pobl ifanc, y bobl
ddiamddiffyn ar rhai mewn angen dybryd o fynediad at dai gweddus. Maer Cyngor
rwyf yn ei arwain yn ymroddedig tuag at wneud gwahaniaeth go iawn gyda鈥檙
materion sydd bwysicaf i bobl Sir y Fflint.鈥
Bydd y gyllideb hon yn:
路 sicrhau bod gwasanaethau allweddol, megis gwasanaethau dydd gofal
cymdeithasol, cyfleusterau hamdden a chyllidebau ysgolion i gyd yn cael eu
diogelu am flwyddyn arall;
路 cynyddu ein buddsoddiad mewn cyllidebau ysgolion o 拢1.4 miliwn drwy gyfuniad
o鈥檔 harian ein hunain a鈥檙 grant amddifadedd disgyblion ychwanegol a sicrhawyd
gyda Llywodraeth Cymru;
路 cynyddu buddsoddiad mewn gwasanaethau cymdeithasol allweddol o dros 拢2
filiwn; a
路 pharhau 芒n hymrwymiad i gadw ein tri chartref gofal preswyl sy鈥檔 cael eu
rhedeg gan y Cyngor, mae hyn yn dra gwahanol ir dull a fabwysiadwyd gan lawer
o Gynghorau eraill ledled y DU.
Ychwanegodd y Cynghorydd
Shotton,
Mae Sir y Fflint wedi
cyflawni ei hymrwymiad i amddiffyn y gwasanaethau a gafodd eu nodi fel bod mewn
perygl yn yr ymarfer ymgynghori cyllideb gyhoeddus Dyma Eich Cyfle Chi cyn y
Nadolig. Mae hon wedi bod yn dasg anodd ac rydym wedi cyflawni hyn drwy dorri
costau鈥檔 galed a dod o hyd i atebion creadigol er mwyn ein galluogi i gynnal
gwasanaethau lleol.
鈥淥 ystyried yr anawsterau o ran cydbwyso cyllideb ac aros yn driw i egwyddorion
y Cyngor, rydym wedi ceisio defnyddio 拢1.4 miliwn o gronfeydd wrth gefn y
Cyngor, er mwyn lliniaru a diogelu gwasanaethaur cyngor ymhellach. Er gwaethaf
yr heriau a wynebwn o fesurau caledi a osodwyd yn y DU, bydd Cyngor Sir y
Fflint yn parhau i wneud safiad cadarn, i lob茂o a mynegi ein hachos dros gyllid
tecach i wasanaethau cyngor lleol gan y Llywodraeth a dros y 12 mis nesaf,
byddaf yn ceisio, fel Arweinydd y Cyngor, i barhau i ffurfio cynghreiriau cryf
gyda grwpiau cymunedol lleol, staff y cyngor, undebau llafur a phreswylwyr
lleol wrth i ni adeiladur momentwm i amddiffyn gwasanaethau lleol yn wyneb
caledi parhaus.鈥
Cyllideb y Cyngor yn Cynnig Buddsoddi record o 拢21 Miliwn mewn Tai
Cyngor
Yn dilyn penderfyniad
llethol gan denantiaid Cyngor Sir y Fflint i aros gydar Cyngor ym mhleidlais
2012 yn hytrach na throsglwyddo i landlord cymdeithasol newydd, mae gwasanaeth
Tai y Cyngor yn parhau i fynd o nerth i nerth.
Maer Gwasanaeth Tai sydd wedi gwella llawer, nid yn unig yn rhoi gwell
gwasanaeth o ddydd i ddydd i denantiaid, ond yn cynhyrchu arian ychwanegol,
drwy weithio鈥檔 fwy doeth ac yn effeithlon ar welliannau ac atgyweiriadau ir
cartref.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Shotton Nid yn unig ein bod 芒
gwasanaeth gwell o lawer nawr ond, am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth, rydym yn
dechrau adeiladu tai Cyngor newydd fel rhan on cytundeb ariannu gyda
Llywodraeth Cymru. Rydym ar y trywydd iawn i adeiladu mwy o dai cymdeithasol
newydd o dan y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) fel rhan on dull
arloesol i ddarparu tai cymdeithasol. Er gwaethaf caledi yn y sector cyhoeddus,
rwyf yn falch bod y Cyngor yn symud ymlaen yn dda gyda鈥檔 blaenoriaethau ar
gyfer tai a darparu ar gyfer pobl Sir y Fflint.鈥
Ychwanegodd yr Aelod Cabinet Tai, y Cynghorydd Helen Brown, Eleni, bydd y
Cyngor yn buddsoddi cyllideb flynyddol o 拢21 miliwn, sy鈥檔 record, ar welliannau
i gartrefi ac
rydym ar y trywydd iawn i wella ein stoc tai fel syn ofynnol erbyn 2020 i
gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru. Mae popeth rydym yn bwriadu ei wneud i gael
ein cartrefi i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru yn cael ei wneud mewn
ymgynghoriad agos 芒 thenantiaid a Chynghorwyr. Rydym yn gweithio gydan gilydd
fel t卯m cryf ac rwyn falch iawn on llwyddiannau.鈥
Meddai鈥檙 Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Bernie Attridge, Maer Cyfrif Refeniw
Tai ar gwasanaeth tai yn parhau i berfformion dda a gwella. Rydym wedi cadw
rhenti ar lefelau fforddiadwy ac rydym yn parhau i weithio gyda thenantiaid ar
ddull partneriaeth cadarn i ddatblygiadau gwasanaeth a chodi t芒l. Mae gennym
weledigaeth ar gyfer dyfodol tai Cyngor y Sir a bydd ein buddsoddiad gwerth
miliynau o bunnoedd yn ein stoc tai 7000+ dros y pum mlynedd nesaf yn creu
gwaith a chyfleoedd gwaith i gwmn茂au lleol.鈥