天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


鈥淧ythefnos rhoi cynnig arni鈥 Sir y Fflint

Published: 11/02/2016

Mae Gwasanaethau Hamdden Cyngor Sir y Fflint yn lansio eu Pythefnos rhoi cynnig arni gyda Diwrnod Hwyl ir Teulu a Gwybodaeth Ddydd Llun, 15 Chwefror yn Neuadd Ddinesig Cei Connah ar Wepre Drive. Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim a bydd stondinau gwybodaeth, sesiynau hwyl a lluniaeth, felly dewch draw i gael gwybod beth all Sir y Fflint gynnig ich helpu i wella eich iechyd a鈥檆h lles. Mae drysau鈥檔 agor am 10am a chynhelir y digwyddiad tan 4pm. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i roi gwybod i ni beth yw eich barn drwy gymryd rhan yn ein hymgynghoriad Teithio Egn茂ol syn anelu at nodi ffyrdd amgen, iachach i deithio o amgylch y sir. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet dros Strategaeth Wastraff, Diogelur Cyhoedd a Hamdden, Maer digwyddiad hwn yn dechrau cyfnod o bythefnos lle gall trigolion ein Sir roi cynnig ar nifer o weithgareddau, llawer ohonynt am ddim. Mae gweithgareddau鈥檔 cynnwys ioga, profion pwysedd gwaed, dosbarthiadau tai chi, dawns amser te y 1940au a llawer mwy. Maer sesiynaun agored a chroesawgar i bawb ac yn wirioneddol wych i ddechreuwyr.鈥 Bydd y Diwrnod Hwyl ir Teulu a Gwybodaeth yn cynnwys arddangosfa codi hwyl gan 鈥楤uckley Cheerleaders鈥 ac maer stondinau gwybodaeth yn cynnwys: Iechyd Cyhoeddus Cymru a Dim Smygu Cymru, RND Memory Matters, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint, Gwasanaethau Hamdden Sir y Fflint, ymgynghori ledled y sir ar Deithio Llesol a Llyfrgelloedd a Chelfyddydau Cyngor Sir y Fflint, a llawer mwy. I gael rhagor o wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau, ewch ir dudalen Gwasanaethau Hamdden ar wefan Sir y Fflint yn www.siryfflint.gov.uk neu ffoniwch 01352 704400.