Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwylio鈥檙 Cyngor yn Fyw
Published: 10/02/2016
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweld democratiaeth ar waith?
O ddydd Mawrth 16 Chwefror, 2016, byddwch yn gallu gwylio eich aelodau
etholedig yn trafod y materion syn bwysig i chi ach cymunedau yn fyw o Siambr
y Cyngor wrth i Gyngor Sir y Fflint baratoi i ymuno 芒 Chynghorau eraill ar
draws y DU wrth ddarlledu cyfarfodydd y Cyngor drwyr rhyngrwyd.
Bydd cyflwynor dechnoleg newydd hon yn golygu y gall pobl naill ai wylio
cyfarfodydd wrth iddynt ddigwydd, neu ddal i fyny yn ddiweddarach, ar adeg ac
mewn lleoliad syn gyfleus iddyn nhw.
I weld y cyfarfodydd hyn ar-lein ewch i
http://www.flintshire.public-i.tv/core/portal/home
Dywedodd y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor,
鈥淢ae Gwe-ddarlledu cyfarfodydd y Cyngor wedi cael ei gyflwynon llwyddiannus
mewn nifer o Gynghorau ledled y Deyrnas Unedig ac rwyn falch iawn bod gan Sir
y Fflint bellach y cyfle i wireddu manteision gwe-ddarlledu yn nhermau
ymgysylltu 芒r cyhoedd a thryloywder.
鈥淢aer dechnoleg hon yn cynnig dull arall i鈥檙 cyhoedd ymgysylltu yn agosach 芒r
broses ddemocrataidd ac i fusnes llywodraeth leol fod yn fwy tryloyw. Bydd
hefyd yn golygu y gall y cyhoedd graffu yn agosach ar farn, gweithredoedd a
safbwyntiau Cynghorwyr lleol.鈥