Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Teithio Llesol yn dod i ysgol leol
  		Published: 11/02/2016
Fel rhan o Ymgynghoriad Teithio Llesol Cyngor Sir y Fflint, bu i swyddogion 
ymweld ag Ysgol Mynydd Isa gydar Trelar Addysg Diogelwch ar y Ffyrdd i siarad 
gydar disgyblion am eu siwrnai ir ysgol.
Roedd y swyddogion am ganfod pa rwystrau a wynebir gan blant syn eu hannog i 
beidio 芒 cherdded ir ysgol. Buont hefyd yn trafod manteision ehangach cerdded 
ir ysgol. Darparodd y disgyblion adborth defnyddiol ar gyfer y broses 
ymgynghori sydd wedi cael ei hanfon ymlaen at Lywodraeth Cymru fel rhan o 
adroddiad ymgynghori Sir y Fflint.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol y 
Cabinet dros yr Amgylchedd:
Y Ddeddf Teithio Llesol yw鈥檙 gyntaf o鈥檌 bath yn y byd ac mae鈥檔 rhoi cyfle i ni 
wneud Cymru yn genedl Teithio Llesol.  Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyflwyno ei 
Fapiau Llwybrau Presennol cyntaf ac mae nawr yn disgwyl cymeradwyaeth 
Llywodraeth Cymru.
Ar gyfer y cyfnod ymgynghori nesaf ynglyn 芒鈥檙 Mapiau Rhwydwaith Integredig, 
bydd Cyngor Sir y Fflint yn llunio rhaglen o ymweliadau ag ysgolion eraill yn y 
Sir. Gall unrhyw ysgolion syn dymuno cymryd rhan gysylltu 芒r T卯m Teithio 
Llesol ar active.travel@flintshire.gov.uk
Yn y llun gyda staff a disgyblion o Ysgol Gynradd Mynydd Isa mae Claire Parry, 
Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd, y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Arweiniol y 
Cabinet dros yr Amgylchedd a Jessica Pritchard, Cydlynydd y Cynllun Teithio 
Rhanbarthol.