Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cefnogi Pobl
Published: 08/02/2016
Yn 2012, creodd Llywodraeth Cymru Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl. Mae鈥檙 grant yn
ariannu gwasanaethau sy鈥檔 galluogi pobl sy鈥檔 agored i niwed barhau i fyw鈥檔
annibynnol yn eu cartrefi鈥檜 hunain.
Yn ystod y tair blynedd diwethaf, gwelwyd toriadau sylweddol Gynllun Comisiynu
Lleol y Rhaglen Cefnogi Pobl 2016-18, sy鈥檔 darparu鈥檙 Grant hwn. Mae wedi peri
pryder sylweddol a chynyddol i鈥檙 awdurdod gan fod y gwasanaethau roedd y grant
yn eu hariannu鈥檔 atal rhai rhag gorfod defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal
cymdeithasol, a gwasanaethau i鈥檙 digartref, sy鈥檔 fwy costus.
Fodd bynnag, mae鈥檙 grant wedi鈥檌 ddiogelu ar gyfer 2016/17 gan roi cyfle i鈥檙 T卯m
Cefnogi Pobl weithio gyda darpawyr i gael hyd i ffyrdd gwahanol o weithio, a
bydd unrhyw arbedion yn cael eu defnyddio i ddarparu cymorth tymor byr i ymdopi
a鈥檙 pwysau y byddwn yn eu hwynebu o ganlyniad i Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a Deddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, yr Aelod Cabinet dros Dai,
鈥淭orrwyd 18.4% oddi ar gyllideb Rhaglen Cefnogi Pobl Sir y Fflint dros y tair
blynedd diwethaf oherwydd mesurau鈥檙 Llywdoraeth ac mae Tim Cefnogi Pobl Sir y
Fflint wedi gorfod cymryd camau strategol penodol i leihau鈥檙 effaith ar ein
cwsmeriaid.
Rwy鈥檔 falch iawn fod Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl wedi鈥檌 ddiogelu rhag y
toriadau yn ystod 2016/17. Mae hyn yn rhoi amser i鈥檙 Tim weithio gyda darparwyr
i gael hyd i ffyrdd o arbed arian gan wneud cymaint ag y gallwn i ddiogelu鈥檙
rhai sy鈥檔 defnyddio鈥檙 gwasanaethau.
Bydd Pwyllgor Craffu Cymuned a Menter Cyngor Sir y Fflint yn ystyried Cynllun
Comisiynu Lleol 2016-18 ar gyfer Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl ddydd Mercher, 10
Chwefror.