Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Premiwm treth gyngor yn cael ei gynnig ar gyfer cartrefi gwag
Published: 08/02/2016
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn adolygur cynnig i gyflwyno premiwm treth gyngor ar
gartrefi gwag ac ail gartrefi hirdymor o fis Ebrill 2017 ymlaen.
Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 bellach yn rhoi disgresiwn i awdurdodau lleol yng
Nghymru godi premiwm treth gyngor o hyd at 100% ar eiddo gwag hirdymor ac eiddo
sy鈥檔 ail gartrefi / cartrefi gwyliau.
Gall y Cyngor godi premiwm ar yr eiddo hyn ar unrhyw gyfradd rhwng 0% a 100%.
Fodd bynnag, maen rhaid ir Cyngor benderfynu p鈥檜n a yw am gyflwyno premiwm a
beth fydd ei faint 12 mis cyn i鈥檙 premiwm ddod i rym.
Maer Cyngor wedi mabwysiadu polisi o beidio 芒 darparu gostyngiad yn y dreth
gyngor ar dai gwag hirdymor neu ail gartrefi ers blynyddoedd lawer. Bydd
cyflwyno premiwm ar ben y dreth gyngor yn helpu i fynd ir afael ag anghenion
tai lleol drwy annog perchnogion tai gwag ac ail gartrefi i ddod 芒鈥檙 eiddo
hynny yn 么l i ddefnydd llawn.
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton, Yn yr hinsawdd
economaidd sydd ohoni, mae angen ir Cyngor ddod o hyd i gymaint o gyfleoedd i
gynyddu incwm ag sy鈥檔 bosibl er mwyn diogelu ein gwasanaethau rhag caledi. Mae
hefyd yn bwysig bod y Cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod
cymaint ag sy鈥檔 bosibl o鈥檙 800 a mwy o eiddo gwag yn ein Sir yn cael eu rhoi yn
么l i ddefnydd. Maer cyngor yn cynnig amrywiaeth o ffyrdd i berchnogion eiddo
gwag eu rhoi yn 么l i ddefnydd llawn, gan gynnwys benthyciadau a chynlluniau
grant. Rydym yn cynnig premiwm o 50% ar gyfer y flwyddyn gyntaf.
I gael mwy o wybodaeth am ffyrdd i helpu, gweler yr adran dai ar wefan Sir y
Fflint www.siryfflint.gov.uk.