Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cynllun Beicio i鈥檙 Gwaith
  		Published: 08/02/2016
Lansiodd Cyngor Sir y Fflint ei Gynllun Beicio ir Gwaith cyntaf ym mis Awst 
2009 ar y cyd 芒 P & MM (asiantaeth gwasanaethau marchnata sydd wedi ennill 
gwobrau syn arbenigo mewn gwella perfformiad).  Ers lansior cynllun mae tua 
312 o weithwyr wedi cymryd rhan yn y cynllun.
Mae Beicio ir Gwaith yn gynllun di-dreth ac nid oes rhaid talu Yswiriant 
Gwladol ar ei gyfer. Ei fwriad yw helpu i hyrwyddo teithiau iachach ir gwaith 
a lleihau llygredd a thagfeydd.  
Trwy gymryd rhan yn y cynllun gall gweithwyr arbed cyfartaledd o hyd at 25% 
oddi ar gost beic mewn taliadau treth a chyfraniadau YG (yn dibynnu ar fand 
treth incwm yr unigolyn). 
Maer Cyngor yn anelu at ddangos manteision cynllun Beicio ir Gwaith ac annog 
cyflogwyr eraill i gynnig dewisiadau cludiant amgen eraill i鈥檞 gweithwyr a 
hyrwyddo beicio fel rhan o ffordd o fyw egn茂ol ac iach bob dydd. Gall cyflogwyr 
o bob maint ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol weithredu 
cynllun benthyciadau di-dreth ar gyfer eu gweithwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros 
yr Amgylchedd: 
 鈥淢aer cynllun Beicio ir Gwaith yn cynnig manteision mawr o wella iechyd i 
helpur amgylchedd. Maer Cyngor wedi bod yn rhan ohono ers dros bum mlynedd a 
byddain annog unrhyw un syn gallu, i ymuno a beicio ir gwaith. Does dim ots 
beth yw maint eich busnes, gall pawb gymryd rhan a byddem yn argymell y cynllun 
i bob cyflogwr yn y Sir.鈥
Gall gweithwyr y Cyngor gofrestru i gymryd rhan yn y Cynllun Beicio ir Gwaith 
ar gyfer Gwanwyn 2016 rhwng 8 Chwefror - 4 Mawrth 2016. 
I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Beicio ir Gwaith ewch i wefan yr Adran 
Drafnidiaeth yn 
http://www.dft.gov.uk/pgr/sustainable/cycling/cycletoworkguidance/