Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Llyfrgell fodern newydd i agor yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy - llyfrgell hunan-wasanaeth gyntaf Sir y Fflint
  		Published: 01/02/2016
Bydd newidiadau鈥檔 cael eu gwneud ir rhwydwaith llyfrgelloedd yn ystod misoedd 
Chwefror a Mawrth.
Maer gwasanaeth yn gwneud y newidiadau hyn yn unol 芒 Rheoliadau Cynllun Tymor 
Canolig ar gyfer Llyfrgelloedd a gytunwyd gan y Cabinet ym mis Mawrth 2015.  Ei 
nod yw ceisio sicrhau rhwydwaith llyfrgelloedd cynaliadwy gan greu arbedion 
ariannol o 30% ar yr un pryd dros gyfnod o dair blynedd. Mae swyddogion wedi 
bod yn gweithio gyda chymunedau i sicrhau fod y newidiadau hyn yn cael eu 
rheoli mor esmwyth 芒 phosibl.
Llyfrgell Glannau Dyfrdwy
Meddai鈥檙 Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet dros Addysg a Ieuenctid,
Rydym yn falch iawn y bydd llyfrgell newydd yn cael ei hagor yng Nghanolfan 
Hamdden Glannau Dyfrdwy ar 29 Chwefror 2016. Bydd y llyfrgell ar gael iw 
defnyddio yn ystod holl oriau agor y ganolfan hamdden. Bydd modd cael mynediad 
at lyfrau a chyfrifiaduron drwy ddefnyddio cyfleusterau hunan-wasanaeth.
Maer llyfrgell wedi鈥檌 hariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o raglen i 
geisio moderneiddio llyfrgelloedd a鈥檜 cyd-leoli 芒 gwasanaethau eraill yn y 
gymuned. Mae aelodau newydd yn cael eu gwahodd i gofrestru ar gyfer y 
gwasanaeth mewn sesiynau a gynhelir dros yr wythnosau nesaf. 
Bydd staff y llyfrgell yn gweithio yn y llyfrgell ar yr adegau canlynol, i 
gynorthwyo cwsmeriaid gyda dewisiadau darllen, mynediad at TG a gwybodaeth.
Dydd Llun 10.00 - 5.00
Dydd Mawrth 2.00 - 7.00
Dydd Mercher 1.00 - 5.00
Dydd Iau 10.00 - 7.00
Dydd Gwener 10.00 -5.00
Dydd Sadwrn 9.00 -1.00
Maer llyfrgell wrth ymyl caffi a chyntedd y ganolfan hamdden.
Llyfrgell Mancot
Bydd y gwasanaethau a ddarperir ym Mancot o rwydwaith llyfrgelloedd y cyngor yn 
dod i ben ar 26 Chwefror 2016 a byddant yn cael eu darparu yn y llyfrgell 
newydd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.
Mae Cyfeillion Llyfrgell Mancot yn bwriadu gweithredur adeilad presennol ym 
Mancot fel llyfrgell gymunedol o fis Mawrth ymlaen pan fydd y newidiadau hyn yn 
digwydd.
Llyfrgell Penarl芒g
Bydd y gwasanaethau a ddarperir ym Mhenarl芒g o rwydwaith llyfrgelloedd y cyngor 
i ben ar 26 Chwefror  2016 a byddant yn cael eu darparu yn y llyfrgell newydd 
yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.
Llyfrgell Campws Queensferry
Bydd y gwasanaethau a ddarperir i gampws Queensferry o rwydwaith llyfrgelloedd 
y cyngor yn dod i ben ar ddydd Gwener 19 Chwefror, 2016 (cyn dechraur hanner 
tymor newydd i ysgolion) a bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu gan y 
llyfrgell newydd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy o Dydd Llun 29 Chwefror 
ymlaen.
Gwasanaeth Llyfrgell Deithiol
Bydd gwasanaeth y llyfrgell deithiol yn ymweld 芒r lleoliadau canlynol ar sail 
rota tair wythnos gan ddechrau ar 29 Chwefror, 2016.
Penarl芒g: Ymweliad cyntaf Dydd Iau 3 Mawrth
Byngalos Penarl芒g, The Highway 9.30 -9.50
Maes Parcio鈥檙 Pafiliwn 10.00 -12.30
Mancot: Ymweliad cyntaf Dydd Iau 17 Mawrth
Leeches Close 9.30 -10.30
Prince William Ave 10.40 - 11.40
Am fwy o wybodaeth cysylltwch 芒 Phencadlys y Llyfrgell ar 01352 704400 neu 
cysylltwch 芒 Pennie Corbett, Prif Swyddog Llyfrgelloedd a鈥檙 Celfyddydau e-bost 
pennie.corbett@flintshire.gov.uk