Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Lliwiaur enfys
  		Published: 01/02/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint yn codir faner enfys y tu allan i Neuadd y Sir unwaith 
eto eleni i gefnogi mis hanes pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol 
(LGBT) yn ystod mis Chwefror.  
Maer digwyddiad blynyddol hwn yn rhoi cyfle i bobl ddysgu mwy am hanes a 
chyflawniadau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol ar mudiad hawliau 
pobl hoyw a hawliau sifil. 
Mae hefyd yn amser i gofio鈥檙 gwahaniaethu mae llawer wedi ei wynebu ar daith 
sydd wedi ei wneud tuag at gydraddoldeb LGBT. 
Dywedodd Sharon Carney, Partner Busnes Arweiniol Adnoddau Dynol: 鈥淢ae chwifio鈥檙 
faner enfys yn bwysig ir Cyngor. Mae chwifior faner drwy gydol mis hanes LGBT 
yn anfon neges glir ein bod wedi ymrwymo i gydraddoldeb i bawb, o fewn y Cyngor 
an cymuned ehangach.