天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd 

Published: 14/05/2021

Bydd gofyn i Aelodau Cabinet Sir y Fflint nodi adolygiad o Gynllun Rheoli Asedau Priffyrdd (HAMP) pan听 fyddant yn cyfarfod ar 18 Mai.听

Y rhwydwaith priffyrdd yw isadeiledd asedau mwyaf gwerthfawr y Cyngor, gydag asedau lonydd cerbydau a throedffyrdd werth dros 拢1 biliwn.听 Mae cyflwr diogel a defnyddiadwy'r rhwydwaith yn hanfodol i gynnal cysylltedd economaidd a chymdeithasol, yn Sir y Fflint ac yn y rhanbarth ehangach.听听

Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gynnal yr holl briffyrdd sydd wedi鈥檜 mabwysiadu, gan gynnwys strwythurau priffyrdd yn y Sir (nid yw鈥檔 cynnwys Cefnffyrdd) ac mae鈥檙 HAMP yn darparu鈥檙 egwyddorion ar gyfer rheoli鈥檙 rhwydwaith pwysig hwn sef:听

鈥 Ymagwedd systematig ar gyfer cynnal a chadw gydag ymagwedd cynnal a chadw hir dymor.听

鈥 Gwneud y mwyaf o鈥檙 buddiannau drwy gydbwyso'r galw sy鈥檔 gwrthdaro ar draws y gwahanol fathau o asedau.听

鈥 Dyrannu adnoddau yn seiliedig ar yr angen a aseswyd ac ymagwedd yn seiliedig ar risg i ddyrannu cyllid.听

鈥 Ystyried disgwyliadau'r cyhoedd yn benodol.听

Ond, mae angen cydnabod y bydd cyflwr y rhwydwaith priffyrdd yn parhau i ddirywio鈥檔 naturiol bob blwyddyn a heb fuddsoddiad blynyddol digonol bydd cyflwr cyffredinol y rhwydwaith yn dirywio.听

Dywedodd Steve Jones, Prif Swyddog Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint:听

鈥淵n ddelfrydol hoffai鈥檙 awdurdod gyflawni parhad o鈥檙 lefel cyflwr presennol 鈥 mae hyn angen buddsoddiad cyfalaf o dros 拢3.2m y flwyddyn.听 Nid yw hyn yn ystyried cyflwr dirywiol yr asedau eraill fel troedffyrdd, strwythurau a rhwydwaith y goleuadau stryd.听

鈥淔elly mae鈥檔 rhaid dyrannu mwyafrif y cyllid sydd ar gael i gynnal a chadw鈥檙 lonydd cerbydau.听 听Mae鈥檙 Cyngor yn gweithredu trefn arolygu a gymeradwywyd ar gyfer yr holl asedau sy鈥檔 sicrhau bod y cyllid sy'n cael ei ddyrannu i bob elfen yn ddigonol i sicrhau bod yr ased yn ddiogel ac yn addas i bwrpas ac felly'n sicrhau ein bod yn cydymffurfio 芒鈥檔 gofyniad statudol i gynnal y rhwydwaith.鈥澨

Bydd gofyn i aelodau Cabinet hefyd gymeradwyo diweddariad i鈥檙 Polisi ar gyfer Arolygon Diogelwch Priffyrdd a Meysydd Parcio, Meini Prawf Ymyrraeth ac Amseroedd Ymateb i gynnwys ymagwedd ddiwygiedig i arolygon strwythurau鈥檙 priffyrdd.听 听Bydd y diweddariad yn darparu eglurder i gategoreiddiad asedau strwythur priffyrdd Sir y Fflint, ynghyd ag amlder a鈥檙 mathau o arolygon a ddyrennir ar gyfer pob categori asedau.听 Mae'r holl gynigion yn alinio gyda'r canllawiau cenedlaethol a'r cyngor cynnal a chadw.听