天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Prosiect Parc Gwepra

Published: 02/02/2016

Mae gwirfoddolwyr wedi ymuno yn ddiweddar gyda Cheidwaid Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint i gynnal amrywiaeth o dasgau ym Mharc Gwepra dros gyfnod y gaeaf. Bydd y gwaith yn cynnwys clirio rhannau o lawr-geirios ymledol a gwneud gwaith cynefin daearol o gwmpas pyllau Madfallod Dwr Cribog Mawr ac adrannau coedlan o goed cyll. Maer gwirfoddolwyr yn dod o ARCH, CAIS a Phrifysgol Glyndwr Wrecsam ac maer prosiect wedi bod yn bosibl drwy fenter Gradd o Gyfrifoldeb Prifysgol Glyndwr (ADOR), a ariennir gan y Loteri Genedlaethol. Dywedodd Lucy Jones, Swyddog Profiad Gwaith y Brifysgol a Chydlynydd Prosiect ADOR: 鈥淢aer prosiect gwirfoddoli wedi鈥檌 anelu at gryfhau galluoedd a hyder ein myfyrwyr ar gymdeithas ehangach drwy greu cyfleoedd profiad gwaith yn y gymuned.鈥� Meddai Ramsey Morsy, Hwylusydd Iechyd a Lles yn ARCH: 鈥淭rwy weithgareddau fel hyn, gallwn gymell ein cwsmeriaid i ddysgu sut i wneud penderfyniadau, gosod nodau ac ymdopi 芒 straen ac emosiynau. Bydd gweithio ochr yn ochr 芒 Cheidwaid Cefn Gwlad profiadol hefyd yn rhoir gallu iddynt ddysgu amrywiaeth o sgiliau newydd ac rwyf yn falch bod cynifer on cwsmeriaid wedi bod yn awyddus i fanteisio ar y cyfle hwn.鈥� Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr Amgylchedd: 鈥淩wyn falch iawn o gael cefnogir fenter newydd hon o fewn Parc Gwepra. Rwyf yn sicr y bydd pob un or gwirfoddolwyr syn ymwneud 芒r prosiect hwn yn cael profiad amhrisiadwy. Bydd diwrnodau Prosiect Gwirfoddolwyr yn cael eu cynnal hyd at ddiwedd mis Mawrth. Nodyn i Olygyddion Mae ARCH yn ymroddedig i wella iechyd a lles pobl a chymunedau. Maen darparu gwasanaethau cyfiawnder troseddol, triniaeth breswyl a chymunedol ar draws Cymru, Gogledd Lloegr a Chanolbarth Lloegr. ARCH ywr contractwr arweiniol yn y Bartneriaeth Affinity, sydd wedi cael ei benodi i ddarparur Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Integredig Cyfiawnder Troseddol Gogledd Cymru am hyd at bum mlynedd gan Swyddfar Comisiynydd Heddlu a Throsedd (OPCC) ar gyfer Gogledd Cymru ar Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr (NOMS) yng Nghymru. Mae ARCH hefyd yn gweithio gyda theuluoedd a chymunedau lleol ochr yn ochr 芒 darparwyr gwasanaethau eraill fel y Ganolfan Byd Gwaith, Canolfannau Cyngor ar Bopeth a grwpiau cymunedol lleol.