Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Defnyddio Profion Llif Unffordd yn gywir
Published: 11/05/2021
Hoffai Cyngor Sir y Fflint atgoffa rhieni nad yw Profion Llif Unffordd yn cymryd lle profion PCR.听
Mae鈥檔 rhaid i unrhyw un sy鈥檔 profi symptomau o Covid-19 archebu prawf PCR.听 Caiff y profion hyn eu hanfon i labordy i gael eu gwirio.听
Nid yw Profion Llif Unffordd yn gallu canfod lefelau isel iawn o鈥檙 coronafeirws mewn sampl gan nad ydynt mor sensitif 芒 phrofion PCR.听 Mae鈥檔 bosibl felly i鈥檙 Prawf Llif Unffordd roi canlyniad negyddol ffals a rhoi sicrwydd ffals nad oes gan yr unigolyn Covid-19.听
Os bydd eich plentyn yn profi unrhyw un o鈥檙 symptomau canlynol:
鈥� tymheredd uchel听
鈥� tagiad newydd a pharhaus听
鈥� colli neu newid i鈥檆h synnwyr arogli neu flasu听
Dylid archebu prawf PCR.听 Mewn achosion o鈥檙 fath, ni ddylid cwblhau Prawf Llif Unffordd.听 Dylech chi ac unrhyw un yr ydych yn byw 芒 nhw aros gartref nes y byddwch wedi derbyn canlyniad eich prawf. Dylech ond gadael eich cartref i gael prawf.听
I archebu prawf PCR, dilynwch y ddolen ganlynol:听
Dylech hefyd roi gwybod i鈥檆h ysgol, cyflogwr neu ddarparwr gofal plant ar unwaith.听
Hefyd, peidiwch ag anfon eich plentyn i鈥檙 ysgol os oes unrhyw un yn y cartref yn profi symptomau o Covid-19 neu鈥檔 aros am ganlyniadau prawf PCR.听
Diolch am eich cydweithrediad mewn perthynas 芒鈥檙 mater hwn ac am helpu ysgolion i gadw eich plant yn ddiogel.听
听