天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


System Atodlen Briodas

Published: 05/05/2021

Mae Gwasanaeth Cofrestru Sir y Fflint yn chwarae ei ran i foderneiddio cofrestru sifil.

Ar 4 Mai 2021 daeth diwygiadau i Ddeddf Priodasau 1949 i rym ac am y tro cyntaf ers dechrau cadw cofnodion yn 1837 ni fydd y gofrestr briodasau yn gofnod cyfreithiol ar gyfer priodasau sifil yng Nghymru a Lloegr. Mae鈥檙 gofrestr briodasau wedi鈥檌 disodli ac mae modd i gyplau rwan lofnodi atodlen briodas.听

Meddai Gareth Owens, Prif Swyddog Llywodraethu:

鈥淒yma鈥檙 newid mwyaf arwyddocaol i gofrestru sifil ers 1837 ac mae鈥檙 Gwasanaeth Cofrestru yn falch o fod yn rhan o鈥檙 newid cyffrous yma.听听

鈥淏ydd y cofrestrydd yn gyfrifol am yr atodlen briodas newydd ac ar 么l seremoni鈥檙 briodas bydd yn cofnodi鈥檙 manylion ar system electronig, gan greu cofnod cyfreithiol ac argraffu'r tystysgrifau. Bydd y gofrestr electronig yn ddiogel, yn fwy effeithlon ar gyfer cadw cofnodion priodas ac yn caniat谩u cynnwys manylion y fam ar y cofnod yn hytrach na manylion y tad yn unig.鈥�

Bydd cyplau sydd wedi cyflwyno Rhybudd o Briodas ar gyfer seremon茂au priodas ar 么l 4 Mai 2021 yn gallu dewis cynnwys manylion pedwar rhiant ar yr atodlen. Bydd y Gwasanaeth Cofrestru ar gael i helpu cyplau cyn y seremoni.听

听