Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cais Cyllid Llywodraeth Cymru
  		Published: 29/01/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint heddiw, (dydd Gwener 29 Ionawr), wedi cyflwyno 
ceisiadau i Lywodraeth Cymru am arian i gyflwyno ystod o welliannau diogelwch y 
ffyrdd a chludiant ar draws y Sir,
Mae deg o gynlluniau arfaethedig wedi cael eu nodi yn dilyn adolygiad a 
dadansoddiad o ddata damweiniau a gofnodwyd ac archwiliadau diogelwch. Sef:
- Uwchraddior groesfan Sebra presennol yn groesfan Pelican ger Ysgol Trelawnyd
- Uwchraddior groesfan Sebra presennol yn groesfan Pelican yn Heol yr Eglwys, 
Bwcle
- Adolygur trefniadau parcio a threfniadau diogelwch traffig cyffredinol y tu 
allan i Ysgol Gynradd Golftyn, Cei Connah, Ysgol Bryn Coch, Yr Wyddgrug ac 
Ysgol Gynradd Sandycroft gan gynnwys darparu terfynau cyflymder 20mya gorfodol 
y tu allan i bob ysgol
- Gwelliannau Diogelwch Priffyrdd a gwaith trin llwybr ar hyd yr A5104 rhwng 
Penymynydd a Warren Hall
- Gwelliannau Diogelwch Priffyrdd a gwaith trin llwybr ar y A5026 Lloc, ger 
Tafarn y Rock Inn
- Gwelliannau Diogelwch Priffyrdd ar Ffordd Lerpwl, Bwcle yn ei chyffordd 芒 
Ffordd Alltami ger Ysgol Uwchradd Elfed
- Gwelliannau i safleoedd bws ar hyd y Rhwydwaith Bysiau Craidd arfaethedig 
newydd drwy wella arosfannau, cyrbau, llwybrau troed, goleuadau a darparu 
arwyddion clir ac amserlenni bysiau ym mhob un or safleoedd, er mwyn darparu 
cysylltiadau effeithiol i drefniadau Cludiant Cymunedol lleol yn y dyfodol
- Gwell trefniadau mynediad i deithio egn茂ol ar hyd Shore Road Gronant 
- Darparu cyswllt llwybr troed rhwng Bryn Awelon, Yr Wyddgrug a Bryn y Baal. 
- Cronfeydd i sefydlu cynlluniau peilot Cludiant Cymunedol mewn dwy ardal or 
Sir
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd:  
Maer cynlluniau wedi cael eu dewis yn dilyn asesiadau o bob maes syn peri 
pryder ar Rwydwaith Priffyrdd y Cyngor. Maer asesiadau wedi dilyn prosesau y 
cytunwyd arnynt yn flaenorol gan y weinyddiaeth i sicrhau didwylledd a 
thryloywder ac i sicrhau bod y cynlluniau sydd fwyaf angen sylw yn cael eu 
cyflwyno. Mae unwaith eto yn amlygu pwysigrwydd rhwydwaith priffyrdd effeithiol 
a diogel ir Cyngor hwn ac rwy鈥檔 disgwyl yn eiddgar am ganlyniad y ceisiadau i 
Lywodraeth Cymru ar gyfer pob un or cynlluniau yr ydym wedi鈥檜 cyflwyno 
Disgwylir canlyniad y ceisiadau yn gynnar yn y flwyddyn ariannol newydd.