Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Asesiad blynyddol Addysg ac Ieuenctid
Published: 14/04/2021
Bydd gofyn i aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint nodi asesiad hunanwerthuso Addysg ac Ieuenctid ac adroddiad thematig cadarnhaol Estyn am waith y gwasanaeth addysg yn Sir y Fflint i gefnogi plant a phobl ifanc yn ystod y pandemig.听
Mae Sir y Fflint yn cynnal hunanwerthusiad blynyddol o鈥檌 wasanaeth addysg. Fel rheol, caiff ei ysgrifennu yn erbyn y fframwaith a gyhoeddwyd gan Estyn, ond gan bod y fframwaith yma wedi鈥檌 ohirio yn sgil Covid-19, fe gyflwynir yr adroddiad yma mewn fformat gwahanol gyda phob maes gwasanaeth yn canolbwyntio ar ei waith dros y deuddeng mis diwethaf a sut mae wedi ymateb ac addasu i鈥檙 argyfwng iechyd parhaus.听
Mae鈥檙 deuddeng mis diwethaf wedi bod yn unigryw ac wedi cyflwyno heriau na welwyd eu tebyg o鈥檙 blaen ar gyfer y Cyngor, yn enwedig mewn cysylltiad 芒 chyflwyno鈥檙 Gwasanaeth Addysg.听
Mae adroddiad adborth Estyn wedi鈥檌 seilio ar gyfarfodydd dros y we gyda Swyddogion Addysg, Aelod Cabinet Arweiniol Addysg, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg ac Ieuenctid a sampl o benaethiaid mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion, ac mae鈥檔 amlinellu ymateb cyflym ac effeithiol y Cyngor i gefnogi plant ac ysgolion o ddechrau鈥檙 pandemig.听
Yn benodol, mae鈥檔 cydnabod yr arweinyddiaeth gref gan D卯m Ymateb i Argyfwng y Cyngor a鈥檙 Portffolio Addysg. Mae鈥檔 s么n am gryfderau yr ymagwedd gydlynol a rennir ar draws y Cyngor a phartneriaid allanol, e.e. GwE, i addasu gwasanaethau鈥檔 effeithiol er mwyn bodloni anghenion plant, pobl ifanc a鈥檜 teuluoedd yn ystod yr argyfwng cenedlaethol.听
Mae hefyd yn nodi鈥檙 adolygiad trylwyr o ymateb y Cyngor trwy waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant. Mae鈥檙 adroddiad yn gadarnhaol iawn ac nid yw鈥檔 nodi unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwelliant pellach.听
听