天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Brecwast ysgol am ddim i ddisgyblion blwyddyn 7 sy鈥檔 gymwys am brydau ysgol am ddim

Published: 07/04/2021

Fe fydd Cyngor Sir y Fflint yn cyflwyno cynllun i gynnig brecwast/byrbryd ganol bore am ddim i fyfyrwyr Blwyddyn 7 sydd 芒 hawl i brydau ysgol am ddim pan fydd ysgolion yn ailagor ar 么l gwyliau鈥檙 Pasg ar 12 Ebrill.

Bwriad y cynllun yma ydi sicrhau bod plant yn dechrau鈥檙 diwrnod gyda phryd o fwyd maethlon, gan olygu bod ganddynt ddigon o arian i brynu cinio sylweddol.

Yn ddelfrydol, dylai鈥檙 lwfans gael ei wario cyn cychwyn y diwrnod ysgol neu yn ystod egwyl y bore. Serch hynny, gall gweithredu 鈥榗yfnodau gwario鈥� penodol ar systemau heb arian fod yn heriol. Felly, gellir gwario鈥檙 lwfans ychwanegol yn ystod egwyl cinio, gyda鈥檙 ysgolion yn annog disgyblion i鈥檞 ddefnyddio cyn dechrau鈥檙 diwrnod ysgol neu yn ystod egwyl y bore. Yn debyg i鈥檙 lwfans arferol ar gyfer prydau ysgol am ddim, ni fydd unrhyw lwfans sydd heb ei wario yn cael ei gario drosodd i鈥檙 diwrnod canlynol.

Bydd y cynllun yn cael ei weinyddu gan bartner arlwyo鈥檙 Cyngor, Arlwyo a Glanhau Newydd Cyf. Bydd yr eitemau brecwast a fydd yn cael eu hannog cyn dechrau鈥檙 diwrnod ysgol neu yn ystod egwyl y bore yn cynnwys grawnfwydydd, ffrwythau a llysiau neu iogwrt.

听