天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Edrychiad newydd i gartrefi Sir y Fflint

Published: 25/01/2016

Mae gwaith yn cael ei wneud ar edrychiad cannoedd o dai syn eiddo ir cyngor mewn prosiect Cyngor Sir y Fflint gwerth 拢4 miliwn a mwy. Fel rhan oi ymrwymiad i fenter Llywodraeth Cymru o gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer ei eiddo erbyn y flwyddyn 2020, maer cynllun mawr cyntaf yn mynd rhagddo yn Nhreffynnon. Mae gwaith eisoes wedi dechrau i wella mwy na 300 o eiddo yn y dref, gan gynnwys toeau newydd, llinellau to a systemau rendr. Bydd y cynllun yn golygu y bydd tua 70 o dai yn cael inswleiddio waliau allanol gan gynnwys ffenestri a drysau newydd a fydd yn gwella diogelwch, yn torri ar golli gwres ac yn lleihau allyriadau carbon. Cwblheir y gwaith erbyn Ebrill 2016. Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Aaron Shotton: 鈥淢ae cam cyntaf ein rhaglen fuddsoddi sylweddol yn rhywbeth yr ydym yn falch iawn ohono a bydd mwy na 300 o deuluoedd yn mwynhau gwelliannau i鈥檞 cartrefi yn fuan iawn. Wrth i ni barhau gydan cynlluniau buddsoddi uchelgeisiol ar gyfer ein cymunedau, rydym yn hyderus y gallwn greu cartrefi modern, cynaliadwy ac addas i bwrpas y gallwn oll ymfalch茂o ynddynt.鈥 Dros y pum mlynedd nesaf, bydd y Cyngor yn buddsoddi dros 拢100 miliwn mewn gwella cartrefi鈥檙 cyngor a chymunedau ar draws y Sir i sicrhau fod pob eiddo yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru. Dywedodd preswylydd Treffynnon, Mr Kenneth Williams o Ffordd Fer: 鈥淢ae pawb sydd wedi bod yn gwneud y gwaith yn gyfeillgar iawn ac maen wych bod y Cyngor yn helpu preswylwyr i gadw eu cartrefin ddiogel ac yn gynnes gydar gwelliannau newydd. Bydd y contract 40 wythnos yn Nhreffynnon hefyd yn creu nifer o gyfleoedd ar gyfer cyflogaeth a chyflenwyr. Maer contractwyr, A. Connolly Ltd, cwmni teuluol syn seiliedig yn Wigan yn agor swyddfa newydd yn Sir y Fflint i hwylusor prosiect. Mae鈥檙 cwmni eisoes wedi cynnal digwyddiad Cwrdd 芒r Prynwr i siarad 芒 darpar gyflenwyr lleol newydd i gefnogir cynllun, gyda mwy na 40 o fusnesau lleol wedi cofrestru yn cynnwys unig fasnachwyr a chwmn茂au bach lleol. Meddai鈥檙 Rheolwr Gyfarwyddwr, Simon Harrison: 鈥淩ydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chyngor Sir y Fflint ac mae鈥檔 gyfle gwych i fuddsoddi yn economi Sir y Fflint gyda chyfleoedd swyddi a hefyd i gael effaith gadarnhaol ar ailwampio cartrefi yn y sir. Byddwn yn rhoi ffocws cryf ar ansawdd, datblygu sgiliau a gwasanaeth lefelau a fydd yn ein galluogi i ychwanegu gwerth ac i ddod 芒 safonau uwch o fyw i drigolion lleol. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai: 鈥淢aer Cyngor Sir wedi canolbwyntio yn bennaf ar waith tu mewn i gartrefi pobl yn y blynyddoedd diwethaf. Maer prosiect hwn yn dangos ein hymrwymiad ir Rhaglen SATC trwy ddechrau canolbwyntio ar ffabrig allanol ein tai. Bydd y cynlluniau hyn yn mynd ir afael 芒 llawer o faterion atgyweirio a bydd hefyd yn gwella golwg clystyrau o dai o amgylch y Sir. Capsiwn: Yn y llun gyda Mr Williams mae Paula Eaves, Swyddog Cyswllt Tenantiaid a Brian Winrow, Rheolwr Safle A. Connolly Ltd, Karen Stevens, Swyddog Cyswllt Tenantiaid a Tryfan Jones, Syrf毛wr Contract, Cyngor Sir y Fflint.