Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2021/22 a Chynllun Busnes
Published: 10/02/2021
Ddydd Mawrth, 16 Chwefror, bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2021/22 a chrynodeb o Gynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai.听
Mae Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai yn cynnwys atgyweirio a chynnal cartrefi鈥檙 Cyngor, gwaith gwella gan gynnwys gwelliant amgylcheddol, rheoli cymdogaeth gan gynnwys mynd i鈥檙 afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gofalu am yst芒d, casglu incwm a chyfranogiad cwsmeriaid ar gyfer ei 7,300 o gartrefi Cyngor, hefyd mae'n cynnwys rhaglen adeiladu tai cyngor uchelgeisiol.听
Yn Rhagfyr 2019, bu i Lywodraeth Cymru ryddhau鈥檙 polisi rhent diwygiedig am gyfnod o 5 mlynedd yn dechrau ym mlwyddyn ariannol 2020/21. Bwriad hyn yw sicrhau fod fforddiadwyedd i denantiaid yn graidd i鈥檔 hystyriaethau.听
Yr opsiwn a argymhellwyd ar gyfer rhenti yn 2021/22 oedd rhoi codiad cyffredinol o 0.68% i bob tenant, ac yn ychwanegol, rhoi codiad pontio o 拢2 i denantiaid sydd o dan y targed rhent. Mae hyn yn sicrhau na fydd unrhyw denant unigol yn talu mwy na鈥檙 uchafswm a ganiateir ond yn parhau i symud tuag at ail ymdrin 芒鈥檙 anghysondeb rhwng y rhenti hynny o dan a鈥檙 rhai ar rent targed, gan geisio gwneud costau rhent yn fwy cyfartal i bob tenant.
Mae disgwyl i renti garejis gynyddu 20c yr wythnos i 拢10.03 yr wythnos a rhent am ddarn o dir ar gyfer garej gynyddu 3c yr wythnos gan fynd ag o i 拢1.63 yr wythnos.
Mae polisi rhent a th芒l gwasanaeth Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bob landlord cymdeithasol gyflawni鈥檙 gost lawn.听 Mae Sir y Fflint wedi bod yn gweithio tuag at hyn.听 Fodd bynnag, ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, cynigir rhewi costau gwasanaeth.听 Bydd hyn yn diogelu tenantiaid sy鈥檔 wynebu anhawster ariannol o ganlyniad i鈥檙 sefyllfa argyfyngus barhaus.听听
Meddai鈥檙 Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae 拢20.8 miliwn wedi鈥檌 gynnwys yn rhaglen gwella Tai Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22, mae鈥檔 cynnwys darpariaeth ar gyfer gwaith mewnol (ceginau ac ystafelloedd ymolchi), gwaith allanol (ffenestri, drysau, toeau, cwterydd, ac ati), rhaglenni amgylcheddol, addasiadau i bobl anabl a gwaith i arbed ynni a chaffaeliad strategol.听
鈥淵n ogystal, mae yna ychydig dros 拢14miliwn ar gael ar gyfer cynlluniau adeiladu tai鈥檙 Cyngor i sicrhau bod mwy o dai cyngor yn cael eu hadeiladu, mae鈥檙 rhaglenni gwaith hyn ynghyd yn gyfwerth 芒 buddsoddiad o 拢34.8m.鈥
听