天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cartrefi newydd ar safle hen hufenfa

Published: 19/01/2016

Mae gwaith yn cael ei wneud i baratoi ar gyfer dymchwel adeilad hen hufenfa ar Ffordd yr Wyddgrug, Cei Connah ac wyth eiddo gerllaw (rhifau 149 i 159) ar Heol Fawr y dref. Mae gan y Cyngor ddyhead hirdymor i adfywio Glannau Dyfrdwy ac yn 2010 datganodd y byddai rhannau o Gei Connah, Shotton a Queensferry yn cael eu gwneud yn 鈥楢rdaloedd Adnewyddu鈥�. Fel rhan o鈥檙 gwaith hwn a gyda chyllid 鈥楪rant Cyfalaf Penodol ar gyfer Ardal Adnewyddu鈥� Llywodraeth Cymru, dechreuodd y Cyngor gaffael eiddo i鈥檞 dymchwel. Dewiswyd yr adeiladau gan eu bod yn cynrychioli safle allweddol yng Nghei Connah, roedd llawer ohonynt yn wag ac roedd y mwyafrif mewn cyflwr gwael iawn. Gyda chymorth rhaglen ariannu 鈥楲leoedd Llewyrchus Llawn Addewid鈥� Llywodraeth Cymru, a ddyfarnodd 拢6.042m i鈥檙 Cyngor ym mis Ionawr 2014, caffaelwyd yr eiddo olaf ym mis Mawrth 2015 gan alluogi鈥檙 Cyngor i symud ymlaen i ailddatblygu鈥檙 safle. Caiff y gwaith dymchwel ei gwblhau ar ddiwedd mis Mawrth yna caiff pridd ei osod ar y safle cyn gwasgaru hadau glaswellt. Gofynnwyd i bartner datblygu strategol y Cyngor ar gyfer y Rhaglen Tai ac Adfer Strategol (SHARP), sef Wates Living Space, edrych ar y safle a datblygu rhai cynigion i鈥檞 hystyried yn ddiweddarach eleni. Meddai鈥檙 Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor ac aelod or ward lleol, Disgwylir i鈥檙 gwaith ar y tai cyngor newydd cyntaf i gael eu hadeiladu ers dros 20 mlynedd ddechrau ym mis Chwefror nepell o鈥檙 hen hufenfa ar safle hen Ysgol Custom House Lane. Dyma鈥檙 datblygiad cyntaf o dan gynlluniau tai uchelgeisiol y Cyngor ac rwy鈥檔 falch iawn y bydd safle鈥檙 hen hufenfa ar Ffordd yr Wyddgrug heyfd ar gael i gyflawni ein cynlluniau i ddarparu cartrefi newydd a fydd yn cynnwys 200 o dai cyngor newydd a 300 o gartrefi fforddiadwy dros y pum mlynedd nesaf. Mae鈥檙 safle hwn wedi bod yn wag ers sawl blwyddyn. Bydd dymchwel a鈥檌 ailddatblygu鈥檔 ein helpu i adfer y Dref yn y lleoliad hwn Meddai鈥檙 Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac aelod or ward lleol, Bydd y safle hwn yn rhoi cyfle i ddatblygu mwy o gartrefi newydd a fforddiadwy a fydd o safon uchel ac ar gael i bobl leol, gan helpu i ysgogi adferiad pellach a dod 芒 gwelliant mawr ei angen i鈥檙 rhan hon o鈥檙 dref.