天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhoi Wyneb Newydd ar y Ffordd yn A550 Cylchfan Penymynydd 

Published: 26/01/2021

roadworks_SMALL.jpg

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod cyllid wedi cael ei sicrhau i ymgymryd 芒'r gwaith o roi wyneb newydd ar y ffordd yn A550 Cylchfan Penymynydd gan ddechrau ddydd Llun 1 Chwefror am oddeutu pythefnos (yn dibynnu ar y tywydd).听

Defnyddir mesurau rheoli traffig dros dro ar yr A550 Cylchfan Penymynydd ac yn ystod cyfnodau amrywiol o鈥檙 cynllun a bydd angen cau'r ffordd wrth fynedfeydd/allanfeydd y gylchfan ar A5118 ac A5104 Ffordd Caer a bydd arwyddion yn dangos y gwyriadau a roddir mewn lle.听

Bydd modd cael mynediad at eiddo a busnesau unigol o hyd, er y gallai fod peth oedi.

Mae Cyngor Sir y Fflint a鈥檔 contractwr Breedon Southern Limited yn ymddiheuro am unrhyw oedi neu amhariad a allai gael ei achosi yn sgil y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn.

听