Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cyllideb y Cyngor 2016/17
  		Published: 15/01/2016
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried y camau olaf yn y broses o bennu 
cyllideb refeniw 2016/17 pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth 19 Ionawr.
Mae angen llenwi鈥檙 bwlch ariannu ar gyfer y flwyddyn anodd sy鈥檔 ein hwynebu, 
ond bydd yn gam mawr ymlaen o ran mantoli鈥檙 gyllideb refeniw ar gyfer
2016/17 mewn cyfnod anodd ym maes cyllido鈥檙 sector cyhoeddus. Yn Sir y Fflint, 
llwyddwyd i wneud hyn drwy gyfuniad o gynlluniau busnes gofalus, lleihau 
gorbenion y sefydliad yn barhaus a mentro鈥檔 ofalus i reoli pwysau fel cyflogau 
a chwyddiant mewn prisiau.
Mae鈥檙 Cyngor yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru, wrth bennu鈥檙 setliad dros dro i 
Lywodraeth Cymru yng Nghymru, wedi gwrando ar yr achos a gyflwynwyd gan gyrff 
llywodraeth leol i arafu toriadau ac effeithiau rhaglen gyni Llywodraeth y DU. 
Llwyddodd Sir y Fflint, gyda chymorth cymunedau lleol drwy gyfrwng yr ymgyrch 
Dyma鈥檆h Cyfle Chi, i gyfrannu鈥檔 effeithiol at yr ymgyrch genedlaethol.
Drwy gydol proses y gyllideb, mae鈥檙 Cyngor wedi ceisio diogelu gwasanaethau 
鈥榬heng flaen鈥, cyfleusterau cymunedol a chyllid i ysgolion. Dywedodd Arweinydd 
y Cyngor, Aaron Shotton: O ganlynia  i鈥檙 gwaith hwn, rydym yn falch o gyhoeddi 
na fydd unrhyw fygythiadau newydd i wasanaethau鈥檙 Cyngor yn 2016/17. Bydd y 
rhestr o wasanaethau y nodwyd eu bod dan fygythiad yn y cyfarfod cyhoeddus a 
gynhaliwyd ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr yn cael eu diogelu am flwyddyn arall. 
Un o flaenoriaethau鈥檙 Cabinet eleni  yw ceisio sicrhau cynnydd o 1% yng 
nghyllid craidd ysgolion lleol.鈥
I fantoli鈥檙 gyllideb, mae bwlch o 拢3m yn parhau, sy鈥檔 cynnwys pwysau newydd a 
nodwyd dros fisoedd y gaeaf ers cyhoeddi rhagolygon y Strategaeth Ariannol 
Tymor Canolig. Bydd gwaith yn parhau i fynd rhagddo i gau鈥檙 bwlch hwn cyn 
cyflwyno adroddiad terfynol gerbron y Cabinet ym mis Chwefror.
Ychwanegodd y Cynghorydd Shotton,Mae gwaith yn mynd rhagddo i fantoli鈥檙 
gyllideb erbyn 16 Chwefror, sef y dyddiad cau. Bydd yn hanfodol i Lywodraeth 
Cymru dorri cyn lleied 芒 phosibl ar y grant i gynghorau lleol  yn y dyfodol. 
Rhaid hefyd fynd ati ar fyrder i ddiwygio鈥檙 system o ariannu llywodraeth leol. 
Ni all Sir y Fflint barhau i dderbyn 拢17.5 miliwn yn llai bob blwyddyn na鈥檙 
grant cyfartalog a roddir i gynghorau Cymru ar sail maint poblogaeth cymharol.