Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor i rieni ar ddysgu wyneb yn wyneb yn ystod y cyfnod clo
Published: 19/01/2021

Atgoffir rhieni yn Sir y Fflint am ganllawiau argaeledd addysg.
Mae dysgu wyneb yn wyneb wedi鈥檌 ohirio gan Lywodraeth Cymru, ar wah芒n i blant gweithwyr allweddol a dysgwyr agored i niwed, tan o leiaf 29 Ionawr, ond oni bai y bydd cyfraddau heintio yn gostwng yn sylweddol, gallai hyn barhau tan hanner tymor Chwefror.
Gyda chyfraddau trosglwyddiadau cynyddol o ganlyniad i鈥檙 amrywiolyn newydd o鈥檙 coronafeirws, mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn datgan y dylai plant gweithwyr allweddol fynychu ysgol dim ond pan nad oes unrhyw ddewis diogel arall o gwbl a dim ond ar ddiwrnodau pan mae eu rhiant neu rieni yn gweithio.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg, 鈥淩ydym yn cydnabod bod hwn yn gyfnod anodd iawn i ddisgyblion a rhieni gyda dysgu wyneb yn wyneb wedi鈥檌 ohirio i鈥檙 rhan fwyaf o ddisgyblion. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod hwn pan mae ysgolion yn agored i blant gweithwyr allweddol, mae鈥檔 hanfodol ein bod yn sicrhau bod canllawiau Llywodraeth Cymru o ran pwy sy鈥檔 cael mynychu yn cael eu dilyn, er mwyn cadw pawb yn ddiogel.鈥�
鈥淒ylai pob plentyn sy鈥檔 gallu cael gofal diogel gartref gael hynny, ond os yw gwaith rhieni/gofalwyr yn hanfodol i ymateb COVID-19, ac nad oes modd cadw鈥檙 plentyn/plant yn ddiogel gartref, yna rhoddir blaenoriaeth i ddarpariaeth addysg wyneb yn wyneb.
鈥淚 sicrhau bod ein cymunedau yn aros yn ddiogel a bod trosglwyddiadau鈥檔 cael eu lleihau, dim ond y disgyblion hynny sydd angen bod yn ysgol a ddylai fod yn bresennol. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gan ysgolion ddigon o gapasiti i鈥檙 rhai hynny sydd wir angen y llefydd.鈥�
Cyfeiriodd Claire Homard, Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, at ganllawiau Llywodraeth Cymru sy鈥檔 datgan:
Nid yw un gweithiwr allweddol yn golygu o reidrwydd bod plant 芒鈥檙 hawl i le yn yr ysgol, ac os yw鈥檔 bosibl i blant gael gofal gartref, yna dylent gael hynny.
Nid yw anawsterau cydbwyso dysgu yn y cartref a gweithio gartref yn rheswm i gael y ddarpariaeth, oni bai bod yr unigolyn sy鈥檔 gweithio gartref yn weithiwr allweddol sydd ddim yn gallu gofalu am y plentyn yn ddiogel.
Os bydd y capasiti鈥檔 llawn, yn seiliedig ar asesiad risg yr ysgol, bydd y Cyngor yn cymryd y penderfyniad y gall rhai plant gael blaenoriaeth ar gyfer darpariaeth yn seiliedig ar alwedigaeth y rhieni.
听